Ionawr 26ain 2023
o 4:30yp tan 7:30yp
Bydd Coleg Dewi Sant yn agor ei ddrysau i holl ddysgwyr blwyddyn 11 sydd â diddordeb mewn ymgeisio ar gyfer Medi 2023.
Parcio a Theithio
Nid oes cyfleusterau parcio ar gael ar y safle oherwydd gwaith adeiladu. Rydym yn rhedeg gwasaneth parcio a theithio am ddim o Barcio a Theithio Dwyrain Caerdydd, Llanrhymni, CF23 8HH. Bydd bysus yn rhedeg bob 15-20 munud o 4:15 tan 7:00. Mae’r bws olaf yn gadael Coleg Dewi Sant am 7:00.
Nid oes angen archebu lle ar y gwasanaeth hwn, dim ond dod pan fydd yn gyfleus i chi. Sylwch fod y Noson Agored yn llawn, felly gall y galw am y gwasanaeth hwn olygu amser aros byr.

Crwydro’r Cynteddau
Rydym yn deall bod neidio o’r Ysgol Uwchradd i’r Coleg yn gam mawr yn eich addysg. Yn ystod Noson Agored, bydd gennych y cyfle i grwydro’r cynteddau, eistedd yn yr ystafelloedd dosbarth, siarad â’r athrawon – a sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

Y tu Mewn i a thu Allan i’r Ystafell Ddosbarth
Rydym yn gwybod nid yw’ch amser yn yr ysgol yn cael ei ddiffinio gan fod mewn ystafell ddosbarth – dysgwch ragor am ein rhaglenni chwaraeon, yr Academi Pêl-fasged Saints a’r Academi Pêl-droed Saints.
Darganfyddwch ein rhaglen Anrhydeddau, ar gyfer dysgwyr mwy galluog a thalentog, a siaradwch â’n timau Lles a Bugeiliol am sut y gallant eich cefnogi.
