Os ydych yn chwilio am gyngor ar lwybrau prentisiaeth, y Safle Lansio yw'r lle i gael rhywfaint o help.
Un o brif nodau’r Safle Lansio yw darparu cyngor ar brentisiaethau.
Gallwch ymweld â’r Safle Lansio i gael cyngor ar:
- Swyddi rhan-amser
- Llwybrau gyrfa prentisiaethau
- Cyngor CV a Llythyrau Eglurhaol
- Sgiliau cyfweliad a Ffug Gyfweliadau
- Help gyda cheisiadau
Byddwch yn elwa o gefnogaeth un-i-un, gweithdai grŵp a chyfleoedd i rwydweithio â chyflogwyr drwy gydol y flwyddyn. Drwy ymgysylltu â’r Safle Lansio, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer natur gystadleuol y byd gwaith.
Chwilio am Brentisiaethau

Gyrfa Cymru
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, eich paratoi ar gyfer cael swydd, a/neu brentisiaeth, cynnig cyngor ac arweiniad ar gyrsiau a hyfforddiant sydd ar gael i chi.
- Platfform Gyrfaoedd a swyddi ar-lein a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
- Cynlluniwch eich taith i yrfa.
- Edrychwch ar opsiynau ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed i weld sut i gael profiad gwaith, a swyddi, a gweld ai prentisiaethau yw’r ffordd ymlaen.

Archwilio Cyflogadwyedd
Os ydych chi’n chwilio am gyflogadwyedd neu’n ffordd i ddechrau eich gyrfa, mae’r Launchpad yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ar gyfer help ac arweiniad.
