Bydd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn galluogi myfyrwyr i astudio nifer o faterion sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang. Bydd y cwrs yn rhoi mewnwelediad da i sut y mae llywodraeth y DU yn gweithio ac arwyddocâd ideoleg a’i effaith ar bleidiau gwleidyddol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Llywodraeth yng Nghymru a’r DU
Mae’r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i sut mae Cymru a’r DU yn cael ei llywodraethu heddiw. Bydd myfyrwyr yn astudio Cyfansoddiad y DU, pŵer y Cynulliad a’r Senedd yn ogystal â rôl y Llys Goruchaf yng ngwleidyddiaeth y DU. Bydd dysgwyr yn gallu trafod, dadansoddi a gwerthuso themâu allweddol, materion a dadleuon o amgylch llywodraethu yng Nghymru a’r DU.

Uned 2 :Byw a Chymryd Rhan mewn Democratiaeth
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar y thema o ymddygiad gwleidyddol yn y DU. Mae’n archwilio i sut gall patrymau cyfranogiad gwahanol bobl cael ei egluro a mathau gwahanol o gyfraniad mewn democratiaeth. Mae pwysigrwydd ymddygiad pleidleisio, dylanwad systemau etholiadol wrth gyfathrebu barn wleidyddol a’r dadleuon sy’n ymwneud â’r defnydd o refferenda yn bynciau hanfodol ar gyfer dadansoddiad.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol
Bydd amrywiaeth o draddodiadau ideolegol yn cael eu harchwilio fel Rhyddfrydiaeth, Ceidwadaeth, Sosialaeth, Comiwnyddiaeth a Chenedlaetholdeb. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ideolegau hyn yn feirniadol a’u perthnasedd cyfoes i wleidyddiaeth y DU a Chymru.

Uned 4: Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr UDA
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar thema llywodraeth yr UDA. Mae’n edrych ar y gwahanol brosesau sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a’r rhwystrau a gwrthbwysau sy’n gynhenid yn y system wleidyddol yr UDA. Mae’n uned synoptig a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gadw’n gyfredol â materion cyfoes yr UDA a gwledydd eraill. Anogir cymhwyso’r wybodaeth a gafwyd o’r cwrs UG wrth werthuso rôl pleidiau gwleidyddol, carfannau pwyso a phatrwm pleidleisio yn yr UDA.

Oherwydd natur eang y pwnc, a’r sgiliau a gafaelwyd drwy gydol y cwrs, mae’n cyfuno yn dda gyda phynciau dyniaethau neu gelfyddydol arall. Bydd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn bwnc defnyddiol i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am gyrsiau’r Brifysgol mewn Hanes, y Gyfraith, Newyddiaduraeth neu ddysgu.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg. Nid yw unrhyw ddysg mewn gwleidyddiaeth yn ofynnol, fodd bynnag mae’n hanfodol i’r cwrs aros yn gyfredol â materion cyfoes.