Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r fanyleb hon yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr datblygu ystod eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol ar lefel Uwch Gyfrannol, sy’n cynnig dealltwriaeth gyfannol iddynt o amrywiaeth o ymarferiadau a chyd-destunau ym meysydd celf weledol, crefft a dylunio, sy’n diweddu mewn arbenigedd a chyrhaeddiad uwch ar Lefel A.

Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i ddatblygu:

  • galluoedd deallus, dychmygus, creadigol, a sythweledol,
  • sgiliau ymchwiliol, dadansoddol, arbrofol, ymarferol, technegol a mynegiannol, dealltwriaeth esthetig a dyfarniad,
  • annibyniaeth meddwl i ddatblygu mireinio a chyfathrebu syniadau eu hun, eu bwriadau a’u canlyniadau personol,
  • diddordeb mewn, brwdfrydedd am a mwynhad mewn celf, crefft, a dylunio,
  • profiad o weithio mewn cyfryngau amrywiol,
  • gwybodaeth a phrofiad o gyd-destunau byd go iawn a, ble’n briodol, cysylltiadau gyda diwydiannau creadigol,
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, crefft, dylunio a’r cyfryngau a thechnoleg mewn diwylliant a chymdeithasau’r gorffennol a chyfoes.

Blwyddyn 1

Ar gyfer y cwrs UG, mae myfyrwyr yn dysgu i weithio gydag ystod eang o gyfryngau, technegau a phrosesau. Ceir pwyslais cryf ar luniadu a dylai dyddiadur gweledol neu lyfr braslunio ddangos ymholi gweledol parhaus a diddordebau personol.

Mae’r cwrs UG yn cael ei asesu trwy gwaith cwrs yn unig.

Mae’r gydran feirniadol a chyd-destunol yn cynnwys sgiliau astudio, ymchwil a dadansoddi. Mae gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu rhywfaint o waith ysgrifenedig.

Blwyddyn 2

Mae’r cymwyster Safon Uwch yn gynnwys dau fodiwl pellach – uned gwaith cwrs a ddyfeisiwyd gan fyfyrwyr ac arholiad ymarferol terfynol.

Ar gyfer y cwrs Safon Uwch, bydd disgwyl i fyfyrwyr gynhyrchu portffolios sy’n dangos dehongliad personol o syniadau, pynciau a themâu.

Mae’r pwnc hwn yn cyfuno yn dda â phynciau creadigol eraill fel Astudiaethau’r Cyfryngau neu Ffotograffiaeth. Fodd bynnag, argymhellir bod dim mwy nag un pwnc ymarferol ychwanegol yn cael ei astudio ochr yn ochr â Chelf rhag ofn i’r llwyth gwaith fod yn ormod.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i Addysg Uwch yn y maes Celf a Dylunio. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen yn uniongyrchol i gyrsiau gradd neu HND mewn Hanes Celf, Dylunio Graffig, Celfyddyd Gain, Ffasiwn a Thecstilau, Hanes Celf, ac ati. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif yn cymryd cwrs Astudiaethau Sylfaen cyn gwneud cais am gyrsiau gradd.

6 gradd TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Celf