Trosolwg o’r Cwrs

Mae cymhwyster Economeg o safon uchel yn cael ei chydnabod gan brifysgolion a chyflogwyr oherwydd mae’n datblygu sgiliau dadansoddol a rhifiadol myfyrwyr, ac yn datblygu’r rhinweddau a nodweddion sy’n arf i fyfyrwyr ar gyfer heriau, cyfleoedd a chyfrifoldebau addysg uwch a bywyd gwaith.

Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu gwybodaeth o economeg yn y byd go iawn ac i ddangos ymwybyddiaeth bellach. Mae’r astudiaeth o farchnadoedd a meicroeconomeg ar gyfer alcohol, tobacco, addysg, gofal iechyd, tai, ac amaeth yn dal sylw myfyrwyr wrth edrych ar faterion megis llygredd ayyb a pholisïau’r llywodraeth i daclo’r rhain. Mae’r astudiaeth o facro-economeg a pam bod diweithdra, chwyddiant, twf economaidd a masnachu yn bwysig i roi blas i fyfyrwyr o sut mae’r economi yn gweithio. Bydd materion cyfoes megis Brexit, polisïau Donald Trump neu’r rhwystrau i wledydd datblygedig yn cynnig ffynonellau arbennig i ffocysu a chymhwyso eu gwybodaeth.

Bydd y cwrs yn defnyddio dulliau meddylgar, critigol i astudio economeg ac i ddatblygu’r gallu i feddwl fel economegwr.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Cyflwyniad i Egwyddorion Economeg

Uned 2: Gweithredu Economaidd

Seiliwyd y fanyleb UG ar yr egwyddor o greu dealltwriaeth ragarweiniol o sut mae marchnadoedd a’r economi yn gweithio e.e. mae’n cyflwyno’r prif gysyniadau o alw a chyflenwi mewn marchnadoedd unigol (micro-economeg) a’r economi gyfan (macro-economeg).

Bydd angen i ddysgwyr defnyddio modelau sylfaenol er mwyn datblygu dealltwriaeth gritigol o faterion economeg ac i ymchwilio i ymddygiad economaidd presennol, trwy dynnu data o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys data sy’n ymdrin â’r economi Cymreig. Mae’r cynnwys UG wedi’i rhannu’n syml i ficro-economeg a macro-economeg.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cael ei asesu gan ddefnyddio arholiad atebion byr a phapur ymateb i ddata sy’n edrych ar gynnwys y flwyddyn UG gyfan.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3 – Ymchwilio i Ymddygiad Economaidd

Uned 4 – Gwerthuso Modelau a Pholisïau Economeg

Disgwylir i fyfyrwyr defnyddio modelau micro a macro mwy cymhleth a’u cymhwyso i ystod eang o gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys data sy’n ymdrin â’r economi Cymreig. Disgwylir i ddysgwyr datblygu dull mwy dadansoddol i werthuso modelau economeg a phroblemau economeg gyfoes. Bydd y traethodau synoptig yn tynnu ar elfennau o gynnwys y fanyleb ac yn gwerthuso dadlau a theorïau amrywiol.

Mae cynnwys y pwnc ar gyfer y flwyddyn Safon Uwch wedi’i rhannu’n tair adran eang o astudiaeth: micro-economeg, macro-economeg, a masnach a datblygiad.

Asesir yr ail flwyddyn gan ddefnyddio arholiad atebion byr a phapur ymateb i ddata sy’n edrych ar gynnwys y flwyddyn Safon Uwch gyfan.

Mae’r Safon Uwch llawn mewn Economeg yn darparu’r sail ar gyfer myfyrwyr sydd am fynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio’r Gyfraith, Rheoli Busnes, Marchnata, Cyfrifeg, Cyllid a Bancio.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd B yn TGAU Mathemateg a gradd B yn TGAU Saesneg a dylai myfyrwyr fod â phroffil TGAU cryf yn gyffredinol.