Bydd myfyrwyr Llenyddiaeth yn cael eu annog i ymgysylltu’n weithredol ag amrywiaeth o enres llenyddol o farddoniaeth i ryddiaith a drama. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y ffordd y mae strwythur, ffurf ac iaith yn ffurfio ystyr yn ogystal â thynnu cymariaethau arddull a thematig rhwng testunau.

Awduron testun craidd yn cynnwys: Charlotte Bronte, Christopher Marlowe, Philip Larkin, Carol Ann Duffy, Shakespeare, Geoffrey Chaucer a William Blake.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Rhyddiaith a Drama (arholiad 2 awr)
Mae’r adran hon yn gofyn i fyfyrwyr ymateb yn ddadansoddol ac yn greadigol i destun rhyddiaith a drama. Disgwylir iddynt allu cyfathrebu’n rhugl, yn gywir ac yn effeithiol eu gwybodaeth, dealltwriaeth a beirniadaeth o destunau; er mwyn dangos dealltwriaeth o ddylanwadau cyd-destunol ar ddarllenwyr ac awduron; ac i ddefnyddio dyfyniadau’n gywir o destunau a ffynonellau.

Uned 2: Barddoniaeth ôl-1900 (arholiad 2 awr)
Ar gyfer yr uned hon, bydd angen i ddysgwyr darllen dau ddarn o farddoniaeth gysylltiedig. Yna, bydd gofyn iddynt ddadansoddi un o’r darnau yn ddadansoddol, a chymharu’r ddau.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Barddoniaeth cyn-1900 a Barddoniaeth Anweledig (arholiad 2 awr)
Mae angen i fyfyrwyr ateb un cwestiwn yn seiliedig ar ddarllen testun barddonol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddarn o’r testun, ac ar eu gwybodaeth ehangach o’r testun cyfan.

Uned 4: Shakespeare (arholiad 2 awr)
Gofynnir i fyfyrwyr dangos eu gwybodaeth a dealltwriaeth o’u drama ddewisol, yn seiliedig ar ddarn ohono. Yna, bydd angen i fyfyrwyr dangos eu gwybodaeth ehangach o’r ddrama gyfan.

Uned 5: Astudiaeth Rhyddiaith (gwaith cwrs)
Asesir yr uned hon yn fewnol cyn ei chymedroli’n allanol. Mae disgwyl i fyfyrwyr cyflwyno aseiniad yn seiliedig ar ddarllen dau ddarn rhyddiaith gan awduron gwahanol, un sydd wedi’i chyhoeddi cyn-2000 a’r llall wedi’i chyhoeddi ar ol-2000.

Arholiadau ym mis Mehefin.

Mae Lefel A Llenyddiaeth Saesneg yn ‘bwnc hwyluso’ Grŵp Russell . Mae llawer o yrfaoedd yn agored i fyfyrwyr Saesneg. Fodd bynnag, y proffesiynau mwyaf amlwg yw’r gyfraith, newyddiaduraeth, addysgu, gweinyddu, gwasanaeth sifil, y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd BB yn TGAU Saesneg.