Bydd y pynciau canlynol yn cael eu hastudio o safbwynt Ffrangeg yn ogystal â chyd-destun byd-eang fel yn briodol:

Blwyddyn 1 (Uwch Gyfrannol)

Thema 1: (UG) Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Ffrangeg

  • Strwythur teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch / perthnasoedd
  • Tueddiadau ieuenctid, materion a hunaniaeth bersonol
  • Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth

Thema 2: Deall y byd sy’n siarad Ffrangeg

  • Diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Ffrainc, gwledydd a chymunedau sy’n siarad Ffrangeg
  • Llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy’n siarad Ffrangeg

 

Blwyddyn 2 (Safon Uwch)

Thema 3: Amrywiaeth a gwahaniaethu 

  • Mudo ac integreiddio
  • Hunaniaeth ddiwylliannol ac ymyleiddio
  • Cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth
  • Gwahaniaethu ac amrywiaeth

Thema 4: Ffrainc o 1940-1950: Meddiannaeth yn y flynyddoedd ôl-rhyfel

  • O 1940- Fai 1950: (meddiannaeth, rhyddhad a diwedd yr Ail Rhyfel Byd)
  • Bywyd yn Ffrainc a feddiannwyd a’r cydbwysedd diwylliannol (theatr, sinema, llenyddiaeth)
  • 1945 – 1950: ailadeiladu ac ailstrwythuro
  • Effeithiau ar gyfer Ffrainc modern.

Yn ogystal â’r pynciau penodedig, bydd myfyrwyr UG yn astudio ffilm o restr ragnodedig a bydd myfyrwyr Safon Uwch yn astudio llyfr o restr ragnodedig.

Yn ystod y cwrs, mae’n bosib bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ymweld â Ffrainc fel rhan o daith gyfnewid neu daith, yn ogystal ag ymweliadau â digwyddiadau diwylliannol Ffrangeg rheolaidd.  Mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn rhaglenni Llysgennad Myfyrwyr gyda’r rhaglen Llwybr i Ieithoedd Prifysgol Caerdydd. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i siarad Ffrangeg yn rheolaidd gyda siaradwr brodorol, a dysgu am ddiwylliant Ffrangeg.