Mae’r cwrs TGAU Gwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl) yn gwrs eang, cydlynol, a gwerthfawr. Mae’n gwrs 2 flynedd, ac ar ddiwedd y 2 flynedd, byddwch yn ennill 2 TGAU mewn Gwyddoniaeth. Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu hyder mewn gwyddoniaeth, ac i fod ag agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc ac i gydnabod pa mor bwysig yw gwyddoniaeth yn eu bywydau bob dydd ac i’r gymdeithas.

O fewn y cwrs hwn bydd myfyrwyr yn derbyn y cyfle i astudio pynciau Bioleg, Cemeg a Ffiseg er mwyn datblygu eu llythrennedd a rhifedd gwyddonol. Mae TGAU Gwyddoniaeth yn rhagofyniad pwysig ar gyfer nifer o gyrsiau lefel 3, a chyrsiau prifysgol.

Caiff y cwrs ei asesu trwy arholiadau ym mis Ionawr a chyfnod Mai/Mehefin a bydd asesiadau dan reolaeth yn cael eu cynnal yn ystod gwersi. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i wneud papurau arholiad haen sylfaenol neu uwch yn ystod eu harholiadau.

Unedau a Gwmpaswyd

BIOLEG

1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

Testunau:

  • 1 Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
  • 2 Resbiradaeth a’r system resbiradol mewn bodau dynol
  • 3 Treuliad a’r system dreulio mewn bodau dynol
  • 4 System cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
  • 5 Planhigion a ffotosynthesis
  • 6 Ecosystemau ac effaith dyn ar yr amgylchedd

 

CEMEG

1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

Testunau:

  • 1 Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
  • 2 Adeiledd atomig a’r Tabl Cyfnodol
  • 3 Dŵr
  • 4 Y Ddaear sy’n newid yn barhaus
  • 5 Cyfradd newid cemegol

 

FFISEG

1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

Testunau:

  • 1 Cylchedau trydanol
  • 2 Cynhyrchu trydan
  • 3 Defnyddio egni
  • 4 Trydan domestig
  • 5 Nodweddion tonnau

 

BIOLEG

2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

Testunau:

  • 1 Dosbarthiad a bioamrywiaeth
  • 2 Cellraniad a bôn-gelloedd
  • 3 DNA ac etifeddiad
  • 4 Amrywiad ac esblygiad
  • 5 Ymateb a rheoli
  • 6 Clefyd, amddiffyniad a thriniaeth

CEMEG

2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

Testunau:

  • 1 Bondio, adeiledd a phriodweddau
  • 2 Asidau, basau a halwynau
  • 3 Metelau ac echdynnu metelau
  • 4 Adweithiau cemegol ac egni
  • 5 Olew crai, tanwyddau a chyfansoddion carbon

FFISEG

2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster

  • 1 Pellter, buanedd a chyflymiad
  • 2 Deddfau Newton
  • 3 Gwaith ac egni
  • 4 Sêr a phlanedau
  • 5 Mathau o belydriad
  • 6 Hanner oes

ASESIAD YMARFEROL

10% o’r cymhwyster. Asesiad ymarferol sy’n cael ei gynnal yn y coleg, ond caiff ei farcio’n allanol gan CBAC. Fe’i cynhelir yn ystod hanner tymor cyntaf y Gwanwyn (Ionawr – Chwefror). Argymhellir y dylid ei gynnal yn y flwyddyn olaf o’r rhaglen astudio.

Mae TGAU Gwyddoniaeth yn gymhwyster rhaganghenraid ar gyfer astudio rhai cyrsiau Lefel A neu Alwedigaethol. Mae’n darparu myfyrwyr gyda sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth, ac mae’n hanfodol ar gyfer mynediad i gyrsiau megis dysgu, nyrsio a nifer arall o yrfaoedd proffesiynol.