Mae cerddoriaeth yn integreiddio’r tair cydran o berfformio, cyfansoddi a gwerthuso trwy astudio traddodiadau cerddorol. Ar lefel UG, bydd traddodiad Clasurol y Gorllewin yn cael ei harchwilio trwy astudio cerddoriaeth gerddorfaol. Bydd idiomau cerddorol modern hefyd yn dod i’r amlwg trwy Theatr Gerddorol neu Jas, Roc a Pop. Ar Lefel A, mae’r astudiaeth o gerddoriaeth yr ugeinfed ganrif drwy waith osod fanwl yn darparu sylfaen eang ar gyfer mynediad i brifysgol a gyrfaoedd cerddorol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Perfformio
Perfformiad offerynnol neu leisiol sy’n cynnwys o leiaf dau ddarn ar Radd 5 sy’n para rhwng chwech ac wyth munud.

Uned 2: Cyfansoddi
Dau ddarn sy’n para o dwy funud yr un. Un yn Nhraddodiad Clasurol y Gorllewin a’r llall yn gyfansoddiad rhydd.

Uned 3: Gwerthuso (arholiad)

  1. Traddodiad Clasurol  y Gorllewin gydag astudiaeth fanwl o’r Symffoni 1750-1830 gan gynnwys un darn gosod, Symffoni Rhif 103, ‘Drum Roll’, Haydn, ‘Symudiad 1 a 2’.
  2. Roc a Pop 1965-1990

 

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 4: Perfformio
Perfformiad offerynnol neu leisiol sy’n cynnwys tri darn ar Radd 6.

Opsiwn A: 3 darn, 10-12 munud
Opsiwn B: 2 ddarn, 6-8 munud

Uned 5: Cyfansoddi
Cyfansoddiadau sy’n para am o leiaf 2 funud yr un, un yn Nhraddodiad Clasurol y Gorllewin a’r un neu ddau arall yn gyfansoddiad rhydd.

Opsiwn A: 2 darn
Opsiwn B: 3 darn

Uned 6: Gwerthuso (arholiad)

  1. Traddodiad Clasurol y Gorllewin gydag astudiaeth fanwl o’r Symffoni 1830-1910 sy’n cynnwys un gwaith gosod, Symffoni Rhif 1, Brahms, ‘Symudiad 4’.
  2. Cerddoriaeth Boblogaidd yng Nghymru, Gruff Rhys, Super Furry Animals, The Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.

Mae’r cwrs Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn darparu’r sail ar gyfer myfyrwyr sydd am barhau i Addysg Uwch i astudio Cerddoriaeth, ac i weithio fel perfformwyr, cyfansoddwyr, darlledwyr cerddoriaeth neu mewn gweinyddiaeth y celfyddydau. Bydd Lefel A Cerddorioaeth yn dangos y gallu i weithio o dan bwysau, gweithio gydag eraill a pherfformio i safon uchel.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd B yn TGAU Cerddoriaeth NEU radd 5 theori a gradd 5 offeryn neu lais safonol.

Rhaid bod myfyriwr sy’n dilyn y cwrs Cerddoriaeth ymgysylltu ag hyfforddiant offerynnol / lleisiol un i un. Mae’r adran yn defnyddio gwasanaeth gerddoriaeth y sir a gallwch drefnu gwersi gyda’r athrawon perthnasol yn ystod diwrnod coleg. Bydd costau yn ddibynnol ar hyd y gwersi.

Cost y gwersi theori: £24 ar gyfer 6 sesiwn pob hanner tymor.

Cost gwersi canu: £60 ar gyfer 6 sesiwn pob hanner tymor.