Astudiaethau Crefyddol
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A* - C: 64%
Bwrdd Arholi
CBAC
Mae’r fanyleb UG Astudiaethau Crefyddol yn cynnwys dwy uned sy’n cynnwys ystod eang o bynciau i’w ystyried, gan gynnwys astudiaeth eang a manwl o Gristnogaeth, crefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd. Mae’r fanyleb Safon Uwch yn galluogi dysgwyr i barhau â’u hastudiaeth systematig o’r tri maes.
Lefel UG (blwyddyn 1)
RS1: (arholiad 1 awr 15 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o rai o nodweddion allweddol Cristnogaeth, yn amrywio o ffigyrau crefyddol i arferion crefyddol.
RS2: (arholiad 1 awr 45 munud)
Mae’r uned hon wedi’i rhannu’n ddwy adran. Mae Adran A yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau a damcaniaethau moesegol allweddol, yn amrywio o absoliwtiaeth foesol i Iwtilitariaeth. Mae Adran B yn archwilio i rai o nodweddion allweddol o themâu athronyddol, gan amrywio o ddadleuon dros fodolaeth Duw i brofiad crefyddol.
Safon Uwch (blwyddyn 2)
RS6: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o bedwar thema testun, sydd mewn perthynas â llenyddiaeth y Testament newydd: gwyrthiau, damhegion, llythyron ac apocalyptaidd.
RS4: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o themâu moesegol sylfaenol, gan amrywio o iaith a meddwl moesegol i wirfodd a phenderfyniaeth.
RS5: (arholiad 1 awr 30 munud)
Mae’r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynnal astudiaeth fanwl ac eang o themâu athronyddol sylfaenol, gan amrywio o ddadleuon dros fodolaeth Duw at ddefnydd o iaith grefyddol.
Bydd ymgymryd ag Astudiaethau Crefyddol yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau gan gynnwys: dadansoddi syniadau; mynegi barn yn feirniadol; ymchwilio; darllen a dehongli testunau; trafod a dadleuo syniadau; rhagweld bywyd ar adegau eraill ac mewn mannau eraill; gwerthfawrogi a pharchu safbwyntiau eraill; cyfrannu yn hyderus mewn trafodaethau grŵp.
Bydd Astudiaethau Crefyddol yn berthnasol ar gyfer graddau mewn: Archaeoleg, Athroniaeth, Hanes, Y Gyfraith, Meddygaeth, Cymdeithaseg, Seicoleg, Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Llenyddiaeth a Chelfyddydau cyffredinol.
6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn Saesneg.