I weld y canllawiau coronafeirws diweddaraf yng Nghymru, cliciwch yma

 

I sicrhau’ch diogelwch yn y Coleg yn ystod y pandemig, gofynnwn yn garedig am eich cymorth gyda’r canlynol: 

  • Symptomau
    Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau Coronafeirws, neu os ydych chi’n teimlo’n sâl yn gyffredinol, peidiwch â dod i’r Coleg. Os ydych chi’n teimlo’n sâl tra’n bresennol yn y Coleg  – rhowch wybod i’ch athro/athrawes a gadewch y safle ar unwaith.
  • Pellter Cymdeithasol
    Lle bynnag y bo modd, ceisiwch gadw at reolau pellter cymdeithasol wrth symud o amgylch y Coleg, ac mewn ardaloedd cymunedol. Cadwch eich pellter oddi wrth eraill lle bynnag y bo modd, a cheisiwch osgoi cyfwrdd ag eraill. Cadwch i’r chwith wrth gerdded ar hyd y coridorau ac wrth ddefnyddio’r grisiau, a symudwch yn gyflym i’ch gwers nesaf – peidiwch â loetran ar hyd y coridorau mewn grwpiau mawr. Gallwch eistedd mewn mannau neilltuol mewn grwpiau o 6 yn unig.
  • Glanhau
    Mae gennym gyfundrefn lanhau drylwyr ar waith yn y Coleg. Helpwch ni drwy lanhau’ch gweithfan yn yr ystafell ddosbarth ac unrhyw offer a rennir ag eraill gyda’r clytiau diheintio sydd ar gael.
  • Golchi Dwylo 
    Golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon yn aml. Hefyd, ceisiwch ddefnyddio’r hylif diheintio sydd ar gael ym mhob ystafell, ac o’r gorsafoedd hylif diheintio sydd o amgylch y safle – yn enwedig cyn ac ar ôl defnyddio offer a rennir ag eraill.