Mae mynychu Diwrnod Blasu yn ffordd ardderchog o gael blas ar fywyd fel myfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant. Yn ogystal â chael amserlen lawn dop o wahanol ddosbarthiadau sydd o ddiddordeb i chi, bydd gennych hefyd gyfle i gerdded drwy’r coridorau, cwrdd â myfyrwyr eraill, a darganfod mwy am fywyd y coleg, tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Dyma rai o’n hawgrymiadau ni ar sut i gael y profiad gorau posib allan o’r Diwrnod Blasu…

Holwch gwestiynau

Y dosbarthiadau fyddwch chi’n eu mynychu yn ystod y diwrnod blasu fydd y rhai a ddewiswyd gennych i’w hastudio ym mis Medi.  Bydd athro/athrawes y pwnc hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â’r cyrsiau, yr asesiadau, a’r hyn sydd ynghlwm wrth wers debygol. Mae’n gyfle hefyd i sicrhau eich bod wedi gwneud dewis call a chywir wrth bennu’ch cyrsiau.

Sgwrsiwch gyda myfyrwyr eraill

Pob blwyddyn, mae Coleg Dewi Sant yn derbyn myfyrwyr o 30 gwahanol ysgolion ledled Caerdydd a Chaerffili. Mae’n naturiol i fyfyrwyr deimlo’n bryderus ynghylch gwneud ffrindiau newydd, ac os ydych chi’n teimlo fel hyn, nid ydych ar ben eich hun. Bydd myfyrwyr eraill yn awyddus i wneud ffrindiau newydd hefyd. Peidiwch â bod yn swil; ewch amdani a siaradwch gyda phobl newydd yn ystod gwersi, amser egwyl ac amser cinio.

Ymwelwch â’r Stondinau Arddangos

Yn ystod amser cinio a’ch gwersi rhydd, bydd stondinau amrywiol wedi’u gosod er mwyn darparu gwybodaeth i chi am wahanol agweddau o’r coleg, gan gynnwys am y Gaplaniaeth, y Tîm Pêl-fasged, Tîm Pêl-droed, Gwasanaethau Myfyrwyr, a Lles. Gallwch siarad gyda nhw i wybod mwy am sut i gymryd rhan ym mywyd y Coleg, tu hwnt i’r ystafell ddosbarth!

Yno, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am LCA, cludiant, gwaith elusennol, lles, beth i’w wneud os ydych chi’n dioddef anhawster/caledi, a sut i ymuno â thîm chwaraeon – byddwch hyd yn oed yn gallu blasu ambell fyrbryd a hufen iâ!

Ymgollwch eich hun yn y profiad

Bydd pob un ohonoch yn anghyfarwydd â champws y Coleg, ac yn ystod y diwrnod blasu, bydd gennych amserlen lawn gwersi’n digwydd o amgylch y safle – byddwch mwy na thebyg yn mynd ar goll! Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddod yn gyfarwydd â’r safle, a gofynnwch am gymorth pan fo angen. Bydd staff wrth law gydol yr amser i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.