
Beth yw ystyr bod yn ddyn?
Yn y byd sydd ohoni heddiw, caiff dynion ifanc eu tynnu ym mhob cyfeiriad gan ddylanwadwyr, cyfryngau cymdeithasol, a syniadau hen-ffasiwn o wrywdod. Yn aml gall y neges aros yn debyg: cadwa’n dawel, paid â chrio, “bydd yn wrol.” Mae angen tynnu sylw at y berthynas rhwng dynion ac emosiynau.
Ond dyma wirionedd sydd angen ei ddweud yn uchel- mae hawl gyda ti i deimlo. Mae caniatâd i ti fod yn fregus. Ac nid yw hynny’n dy wneud yn wan- mae’n dy wneud yn real.
Cafodd criw o staff sy’n ddynion eu hatgoffa o sut roedden nhw’n teimlo pan oedden nhw’n unarbymtheg oed, a chawsant y syniad- “Taswn i’n gallu dweud wrtho fe sut mae gweddill y stori’n mynd, fasai fe ddim yn teimlo’r angen i guddio, i fod yn llai na hyderus, i guddio’u teimladau er mwyn bod yn wrol”.
Rhannon nhw eu gwersi am fod yn ddyn, am emosiwn a nerth. Mae eu geiriau’n fwy na meddyliau personol- maen nhw’n atgoffwyr o sut gellir tyfu’n oedolyn heb leihau dy deimladau. Mae’n golygu sut i ddysgu arwain gydag empathi, gwytnwch, a chalon, a sut y gall dynion godi llais am eu teimladau.
“Ron i’n teimlo pwysau i ddod o hyd i’r atebion i gyd- gyrfa, perthnasoedd, bywyd. Ron i’n cymharu fy hun ag eraill, hyd yn oed heb gyfryngau cymdeithasol. Dw i ddim yn gallu dychmygu pa mor anodd mae hynny nawr.”
Gwnaeth Mr Dix oroesi hyn drwy ffocysu ar yr hyn oedd o’i flaen, drwy ffrindiau, a thrwy reoli beth gallodd e o ran ei astudiaethau a’i deulu.
“Dysgodd fy nheulu i fi bod llwyddiant yn dod ar sawl gwedd ac nid yw bob amser yn teithio ar hyd llinell syth.”
Siaradodd e’n agored am y pwysedd roedd e’n teimlo fel arddegwr i fod yn bopeth i bawb- i ffitio i mewn, i lwyddo ym mhopeth a byth cwympo ar ei hôl hi. Rhannodd e sut y gwnaeth methiant ei daro’n galed yn y brifysgol, gan ei adael yn teimlo’n anobeithiol. Ond heddiw mae e’n mwynhau gyrfa ffyniannus, yn helpu eraill, ac mae e’n falch o’i siwrnai.
“Nid diwedd fy stori i oedd methu tri modiwl. Fy helpu i siapo’r stori wnaeth hynny. Wnaeth y methiant ddim fy niffinio i, a ni wnaiff e fyth.”
Roedd e’n arfer credu bod nerth yn golygu aros yn fud, peidio crio, a delio â phroblemau ar ben dy hun. Ond dros amser, dysgodd e mai gwir nerth yw adnabod dy hunan yn dy gyfanrwydd- yn enwedig pan fydd pethau’n anodd.
“Dw i’n credu bod “Bydd yn wrol” yn hen derm ar ôl ei amser. Nerth yw deallusrwydd emosiynol, gwytnwch, a bod yno i bobl eraill.”
Roedd ysgrifennu llythyr at ei hun yn ifanc yn dasg heriol i Mr Hazel, wrth iddo geisio bod yn ddiffuant, yn llawn doethineb a rhannu ei brofiadau go-iawn.
“Rwyt ti’n tyfu i fyny mewn byd sy’n dweud wrth fechgyn i “fod yn wrol”, i fod yn dawel pan rwyt ti’n brifo. Ond nid nerth yw tawelwch. Nerth yw gonestrwydd.”
Atgoffodd e ei hun yn ifanc- a ni i gyd- bod y byd yn dweud wrthon ni i guddio ein hemosiynau, gwisgo mwgwd, ac actio’n ddi-hid. Ond mae twf yn digwydd pan fyddwn ni’n gadael i’r waliau gwympo.
“Ti’n meddwl: wyt ti’n ddigon da? Fyddi di byth yn teimlo fel petaet ti’n perthyn? Ydy pobl yn dy weld di? Ydyn. Maen nhw. Ac un diwrnod fe weli di dy hun hefyd.
Byddi di’n crio. Byddi di’n gofyn am help. Byddi di’n agor dy galon. A bydd y troeon hynny’n newid bywydau- gan gynnwys dy un di.”
Ei neges at ei hun yn ifanc yw hyn: Gelli di fod yn uchelgeisiol, arwain timoedd, adeiladu cymunedau a bod yn llwyddiannus- nid achos taw ti yw’r uchaf dy gloch neu’r mwyaf swnllyd, ond achos bod ots gyda ti. Achos dy fod yn codi eraill i fyny. Achos dy fod yn gwrando.
Mae Mr Hazel yn rhannu sut dysgodd e nad yw e’n uwch na neb arall, a sut y gwnaeth parch tuag at eraill ei ddysgu pa mor bwerus yw cysylltiadau. Mae e hefyd yn cydnabod pŵer maddeuant, a sut gall hynny eich cario’n bellach nag y basai dial fyth yn gallu.
“Dydy dy werth di ddim yn cael ei fesur yn sŵn dy waedd, ym mha mor galed gelli di actio, neu faint o faich gelli di ei gario ar ben dy hun. Mae dy werth di i’w fesur yn sut rwyt ti’n dy godi dy hun ac arwain gyda dy galon.”
Mae’n golygu:
Nid un peth yn unig yw gwrywdod. Nid cau dy emosiynau neu actio’n galed yw e. Gwir wrywdod yw adnabod dy hun, hawlio dy stori, a chael y dewrder i dyfu.
Felly i bob dyn ifanc sy’n darllen hwn:
Does dim angen cuddio popeth i brofi dy hun. Does dim rhaid iti fod ar ben dy hun. Nid dy elynion yw dy emosiynau- dy dywysydd ydyn nhw.
Dwyt ti ddim yn llai o ddyn am ddangos sut wyt ti’n teimlo. Rwyt ti’n fwy o ddyn.
Pan fyddi di’n mynd drwy gyfnod anodd, ymestynna allan. Siarada â rhywun. Dwyt ti ddim ar ben dy hun- a does dim raid iti fod, byth.
Beth am ail-ysgrifennu’r stori. Gallwn ni ail-ddiffinio nerth- gyda’n gilydd.