Dydd Iau 18fed Awst
Bydd canlyniadau UG/Uwch/BTEC Lefel 3 ar gael i’w casglu o’r coleg ar ddydd Iau 18fed Awst, o 9:00yb ymlaen.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau o ran eich canlyniadau neu’ch lle mewn prifysgol, dowch i’r Coleg, lle bydd aelodau o staff wrth law i’ch helpu.
Os na allwch ddod i gasglu’ch canlyniadau, byddant yn cael eu he-bostio’n uniongyrchol at eich cyfeiriad e-bost personol a’ch un coleg drwy gydol y dydd.
Dydd Iau 25ain Awst
Bydd canlyniadau TGAU a BTEC Lefel 2 ar gael i’w casglu o’r coleg ar ddydd Iau 25ain Awst, o 8:30yb ymlaen.
Dewch i gasglu’ch canlyniadau o Dderbynfa’r Coleg.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau o ran eich canlyniadau, bydd aelodau o staff wrth law i drafod â chi. Os na allwch ddod i’r Coleg i gasglu’ch canlyniadau, byddant yn cael eu he-bostio’n uniongyrchol at eich cyfeiriad e-bost personol a’ch un coleg drwy gydol y dydd.
Cymwysterau Cymru
Beth allwn ni ei ddisgwyl o ganlyniadau Safon Uwch a TGAU eleni yng Nghymru?