Yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd, gallwch fod yn gymwys am gefnogaeth ariannol, megis LCA a'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Beth yw LCA?
Taliad wythnosol o £30 i helpu gyda chostau Addysg Bellach (16-18 oed) yw Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Darperir y taliadau i chi bob pythefnos, cyhyd â’ch bod yn cwrdd â gofynion presenoldeb, perfformiad, ac ymddygiad eich ysgol neu goleg.
I wybod mwy am LCA, cliciwch yma am y Llyfr Bach LCA
Ffurflen Gais
I anfon cais am LCA, bydd angen cwblhau’r ffurflen gais yma:
Nodiadau Cyfarwyddyd
Defnyddiwch y ddogfen ‘Nodiadau Cyfarwyddyd’ isod wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Cliciwch yma am Nodiadau Cyfarwyddyd
Dyddiadau Talu LCA
Cronfa Ariannol wrth gefn (FCF)
Mae’ch cais i’r ‘Gronfa Ariannol Wrth Gefn’ yn gais â phrawf moddion sy’n seiliedig ar incwm eich aelwyd, sydd rhaid iddo fod yn is na £23,078 y flwyddyn.
Mae’r gronfa yn seiliedig ar grantiau dewisol, lle gall y Coleg eich helpu chi drwy gyfrannu tuag at eich costau teithio, costau anabledd, cost offer hanfodol ar gyfer cwrs penodedig, cost ymweliadau addysgol, cymorth gyda chost prydiau bwyd, ffioedd arholiad, costau gofal plant, costau preswyl neu gostau byw ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn annibynnol.
Cinio Ysgol Am Ddim
Bydd myfyrwyr yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu yn derbyn:
- Cymorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credydd Treth Plant gydag Incwm o lai na £16,190
- Credydd Cynhwysol os yw enillion net y cartref yn llai na £7,400
Caiff pob dogfen sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol ei chyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Gall pob ymgeisydd gyflwyno ei gais yn Gymraeg ac ni thrinnir ceisiadau o’r fath yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Os oes angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o’r broses ymgeisio am grant neu gymorth ariannol, gellir cynnal y cyfweliad hwnnw’n Gymraeg, trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd pan fo angen. Pan gaiff cais am grant neu gymorth ariannol ei gyflwyno’n Gymraeg, byddwn yn hysbysu’r ymgeisydd hwnnw am ganlyniad ei gais yn Gymraeg.
Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad o ran rhoi grant neu gymorth ariannol, byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y rheini sy’n siarad Cymraeg, gan sicrhau na effeithir y penderfyniad hwnnw’n andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Pan roddir penderfyniad ar waith (er enghraifft, trwy orfodi unrhyw amodau), gwnawn hynny mewn modd sy’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio’r Gymraeg.