
Ddydd Gwener 4 Gorffennaf aeth cynrychiolwyr o Academi Arweinyddion Ifanc Dewi Sant i ymuno â Citizens Cymru ac arweinyddion ifanc o Gaerdydd yn y Senedd. Roedden nhw’n ymgyrchu dros bris tocyn teg i bobl ifanc deithio ar fysiau.
Mynychodd y myfyrwyr ddigwyddiad ysbrydoledig lle codon nhw eu lleisiau i fynnu newid cadarnhaol drwy drefnu cymynedol. Eu cais oedd tocyn bws am £1 ar gyfer plant o dan 16, ac anogon nhw’r swyddogion i ymestyn y cynllun peilot i gynnwys pobl o 16-21 oed. Basai hyn yn gwneud teithio’n fwy fforddiadwy i bobl ifanc a’u teuluoedd.
Cynrychiolodd ein myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn dda mewn trafodaethau ag aelodau allweddol o’r Senedd. Gwrandawodd Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) a Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) ar y materion sy’n wynebu pobl ifanc a theuluoedd.
Esboniodd Malek bod ei theulu’n talu am docyn oedolyn ar gyfer ei brawd ifanca er iddo fod mewn addysg lawn amser, Mae hyn yn gwneud teithio i goleg yn anfforddiadwy i nifer o deuluoedd.
Dwedodd Ahmet, “Roedd hi’n dda i weld aelodau’r Senedd yn cymryd ein gofidiau o ddifrif, Gwnaethon nhw wrando ac ateb ein cwestiynau gyda pharch. Roedd hi’n teimlo fel petai’n lleisiau ni’n cyfrif.”
Adlewyrchodd Adriana, “Roedd hi’n ysbrydoliaeth i fi weld gymaint o bobl ifanc ac arweinyddion yn gweithio tuag at newid positif. Rhoddodd obaith i fi am yr hyn gellid ei gyflawni drwy drefnu’n gymunedol.”
Rydyn ni’n falch o’n cynrychiolwyr myfyrwyr a’r Academi Arweinyddion Ifanc. Eleni, buon ni’n brysur yn trefnu yn y gymuned, yn blaenoriaethu cydsafiad, a’r dewis blaenoriaethol ar gyfer y tlawd, Mae’r egwyddorion hyn yn hysbysu eu hymdrechion. Yn ogystal ag ymgyrchu ar gyfer pris tocyn teg, dysgodd y myfyrwyr am ymgyrchoedd pwerus ynglŷn â chartrefi, diogelwch a’r cyflog byw. Mae hyn yn arddangos sut y gall pobl ifanc gael argraff gadarnhaol ar eu cymunedau.
Fel canlyniad positif i’r digwyddiad, derbyniodd Mrs Cummins a’r myfyrwyr wahoddiad i gwrdd â Ken Skates, AS. Fe sy’n gwasanaethu fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, a byddant yn trafod gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ymhellach.
Edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd i’r Academi Arweinyddion Ifanc ym mis Medi ac adeiladu ymhellach ar y momentwm hwn. Anelwn at weithio tuag at etholiad nesaf y Senedd.