Cafodd deuddeg myfyriwr ffiseg gyfle unigryw i fynychu symposiwm y gofod yn y Senedd ym Mae Caerdydd i drafod cenhadaeth ExoMars. Hefyd gwelon nhw waith arloesol sy’n cael  ei wneud gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dangosodd cyflwyniad yn Neuadd y Senedd rôl allweddol Prifysgol Aberystwyth yng nghenhadaeth  ExoMars ESA. Mr Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Pherthnasau Allanol, ddechreuodd y digwyddiad gyda chyflwyniad diddorol gan wyddonwyr ac ymchwilwyr blaengar.

 


Ymysg y siaradwyr oedd Mr Cefin Campbell (AS), Yr Athro Huw Morgan, Yr Athro Manuel Grande, Ms Gwen Roberts, a Dr Helen Miles. Trafododd eu cyflwyniadau agweddau cymhleth technegol sy wrth gefn cenhadaeth ExoMars. Un esboniad oedd sut mae’r Crwydryn Mawrth yn casglu samplau data o arwynebedd Mawrth gan ddefnyddio’i olwynion o beirianwaith arbennig.

Roedd y dysgwyr yn llawn brwdfrydedd i weld a rhyngweithio â’r model maint-llawn Crwydryn Mawrth, a adeiladwyd gan Brifysgol Aberystwyth. Wrth holi cwestiynau a thynnu lluniau, dysgon nhw sut  mae’r crwydryn yn gweithredu yn amgylchedd Mawrth. Gyda chynllun i’r crwydryn lanio ar Fawrth yn 2028, cynigiodd yr ymweliad hwn gipolwg o ddyfodol archwilio’r planedau.

 

 

Yn ogystal, archwiliodd y myfyrwyr ymchwil gofod cyfredol y brifysgol, gan gynnwys astudiaethau i dywydd y gofod ac offer arbennig. Dangosodd yr ymchwilwyr darnau o deithiau blaenorol i’r gofod  er mwyn rhoi profiadau ymarferol i’r dysgwyr.  Gwnaethpwyd y blas cyffrous hwn i wyddorau’r gofod ac mae archwilio’r planedau’n bosibl drwy nawdd Mr Cefin Campbell (AS).

Llwyddodd y digwyddiad i ymestyn dealltwriaeth y myfyrwyr o ffiseg mewn cyd-destun go-iawn a chreu cyfle iddyn nhw ryngweithio ag arbenigwyr sy’n llunio dyfodol anturiaethau i’r gofod. Bydd y daith yn siŵr o ysbrydoli’n cymuned i ddod yn wyddonwyr y dyfodol.