Gwerthfawrogwn na chafodd dysgwyr lawer o gyfle i ymweld â Choleg Dewi Sant, oherwydd y rheoliadau COVID. Er yr oeddem ni’n gallu darparu gwybodaeth yn ystod ein Nosweithiau Agored Rhithiol, nid yw’r rhain yn yr un cae â cherdded drwy’r coridorau a sgwrsio gyda’r athrawon – i ddychmygu eich hun fel myfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant.
Rydyn ni’n cynnal ein Diwrnodau Agored ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Sadwrn 30ain Ebrill – (10:00yb/1:00yp)
- Dydd Mercher 4ydd Mai – (4:30yp)
- Dydd Sadwrn 18fed Mehefin – (10:00yb/1:00yp)
- Dydd Sadwrn 2ail Gorffennaf – (10:00yb/1:00yp)
Yn ystod ein Diwrnodau Agored, cynhelir cyflwyniad yn Theatr y Coleg, ac yna fydd taith o amgylch y campws, gyda chyfle i chi sgwrsio gyda’n staff addysgu a’n myfyrwyr cyfredol.
Er mwyn sicrhau y cedwir at gyfyngiadau o ran niferoedd, bydd pob bwciad yn caniatáu 1 myfyriwr ac 1 person arall i fynychu, naill ai rhiant, gwarchodwr, neu ffrind. I fwcio’ch lle, cliciwch ar y dolenni isod:
Dydd Sadwrn 18fed Mehefin
Dydd Sadwrn 2ail Gorffennaf
Diwrnod Agored Pêl-fasged y Saint
Bechgyn a merched, dewch yn llu i gael blas o’r hyn y mae myfyriwr-athletwr yn gwneud ar ddiwrnod arferol, yn ystod ein diwrnod agored ar 24ain Mehefin am 1:00yp.
✅Taith o amgylch y safle
✅Cryfder a Chyflyru
✅Sesiwn Sgiliau
I gofrestru, anfonwch e-bost at James Dawe jdawe@stdavidscollege.ac.uk