Bydd ein Noson Agored nesaf yn un Rhithiol.

Yn anffodus, yn sgil yr amgylchiadau cyfredol, rydym wedi penderfynu peidio â chynnal y Noson Agored ar safle’r Coleg ar 12fed Ionawr, oherwydd y risg gynyddol o drosglwyddo COVID.

Yn hytrach, cynhelir y Noson Agored ar-lein. 

Ar 12fed Ionawr, byddwn ni’n lansio ein platfform digidol, gyda gwybodaeth am yr holl gyrsiau a gynigir gennym, cyflwyniadau gan athrawon, a gwybodaeth am fywyd yma yng Ngholeg Dewi Sant megis ein darpariaeth fugeiliol, y Rhaglen Anrhydedd, a’r gefnogaeth yr ydyn ni’n ei chynnig.

Yn ystod y Noson, bydd hefyd cyflwyniad byw yn cael ei ffrydio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn agosach at yr amser.