Am y tro cyntaf yn eich addysg, mae gennych chi'r rhyddid nawr i ddewis yr hyn hoffech ei wneud nesaf.

Mae Coleg Dewi Sant yn arbenigo mewn cynnig addysg o safon uchel i bobl ifanc 16-19 oed, o bob cefndir a gallu. Mae Coleg Dewi Sant yn goleg chweched dosbarth sy’n gyfeillgar a chynhwysol, gydag enw da am ei ganlyniadau rhagorol, ei gefnogaeth ddysgu, a’i arweiniad. 

Mae gan Goleg Dewi Sant safle unigryw yn nhermau addysgiadol gan mai dyma’r unig goleg dosbarth Chwech Catholig yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan Archesgobaeth Caerdydd i fod yn le lle caiff crefydd ei barchu a’i annog, yn le lle mae pobl yn bwysig ac y gallan nhw ddod o hyd i ddealltwriaeth a chyfeillgarwch.

Er bod blaenoriaeth mynediad yn cael ei roi i fyfyrwyr o’n pedair ysgol Gatholig partnerol, rydyn ni’n croesawu myfyrwyr o ffydd a chefndiroedd eraill. Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag sy’n eich gwneud yn unigryw yn llygaid Duw, fe fyddwn yn gwerthfawrogi’r elfennau unigryw hynny yng Ngholeg Dewi Sant.

“Rwyf wrth fy modd yn astudio yng Ngholeg Dewi Sant. Mae pawb mor gyfeillgar yma; yr athrawon, y staff, a’r myfyrwyr eraill. Teimlaf fod fy nealltwriaeth o’r pynciau a ddewisais wedi gwella’n aruthrol, ac mae’r athrawon anhygoel sydd gennyf wedi fy helpu i’w chyflawni”.

Arbenigwyr yn gweithio gyda phobl ifanc 16 – 19 oed.

Fel coleg sydd wedi darparu addysg i bobl ifanc 16-19 oed am dros 30 mlynedd, mae’n golygu ein bod ni’n arbenigwyr yn delio ag unrhyw rwystrau a allai ymgodi yn ystod yr adeg honno yn eich bywyd – boed hynny’n academaidd neu’n fugeiliol.

Wrth ichi ddechrau ym Mlwyddyn 11, rydych yn cychwyn ar gyfnod pwysig yn eich bywyd, lle’r ydych yn dechrau’r daith trwy addysg bellach, a thuag at addysg uwch neu’ch gyrfa. Mae gan Goleg Dewi Sant staff i’ch cefnogi chi drwy gydol y broses allweddol hon mewn bywyd.

Mae mwy i fywyd nag astudio.

Dylai astudio a chyflawni’n academaidd gael eu cynnwys ar eich rhestr flaenoriaethau. Ond, yr unig flaenoriaeth wedi’i chynnwys arni. Mae Coleg Dewi Sant yn cydnabod pwysigrwydd tyfiant y person  – ac er mwyn cyflawni hyn, bydd angen cyfleoedd arnoch i dyfu a magu’ch diddordebau.

Gweithgareddau Allgyrsiol

I gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth…

Achosion Elusennol

Yn ystod eich amser yng Ngholeg Dewi Sant, rydym yn annog eich bod chi’n ymgysylltu ag achosion elusennol, naill ai’n lleol neu’n ehangach. Fel aelod o Goleg Dewi Sant, rydych chi’n cyfrannu ac yn chwarae rôl ym mywyd y gymuned.

Cyfleoedd Gyrfaol a Chyflogaeth

“Un o’r pethau unigryw y mae’r Coleg yn cynnig o gymharu ag ysgolion eraill yw mwy o annibyniaeth. Gwnes i ymuno â Choleg Dewi Sant yn y gobaith fyddai’n gam pwysig i bontio tuag at brifysgol.

Mae Coleg Dewi Sant wedi caniatau, nid dim ond i fi dyfu’n berson a dysgwr mwy cymdeithasol a hyderus. Ond, mae’r Coleg wedi fy ngalluogi i fi fod yn fwy anymddiheuriol fel person nawr, ac yn y dyfodol”.

– Melanie Benedict