Academi Pêl-fasged Coleg Dewi Sant yn symud ymlaen at Rownd Derfynol Genedlaethol Chwaraeon AOC gyda buddugoliaeth 81-73 dros Charnwood.
Cafodd tîm pêl-fasged y bechgyn fuddugoliaeth enfawr yr wythnos hon gan guro ail dîm Charnwood yn Gêm Gynderfynol y Cwpan AoC. Roedd y momentwm o blaid y bechgyn ar ôl iddynt guro CCAF yn rownd yr wyth olaf, ond roedden nhw’n gwybod byddai’r rownd nesaf yn anodd yn erbyn Charnwood, un o academïau pêl-fasged mwyaf y DU.
Gwnaeth y tîm y daith hir i fyny i Charnwood yng Nghaerlŷr i wynebu tîm trefnus mewn awyrgylch dwys. Hyd yn oed yn ystod y cynhesu roedd y dorf eisoes yn uchel ei llais ac yn gwneud defnydd da o’u drymiau!
Cyfnewidiodd y ddau dîm fasgedi’n gynnar ac roedd y sgôr yn agos iawn. Sgoriodd Charnwood yn gyfforddus ar yr wrthymosodiad gyda rhai gorffeniadau cryf wrth y fasged. Sgoriodd Alonzo Rosario a Ravin Edirimuni’r basgedi cyntaf dros Goleg Dewi Sant, gan amlygu i Charnwood yn syth bod eu cyflymder yn mynd i fod yn broblem.
Yn yr ail chwarter arweiniodd symudiad pêl Charnwood a’u gallu i sgorio basgedi tri phwynt at fechgyn Dewi Sant yn cwympo 14 pwynt ar ei hôl hi. Helpodd arweinyddiaeth Ravi i aildrefnu’r bechgyn a llwyddodd i reoli’r gêm ddigon i Goleg Dewi Sant adfer ychydig, gan fynd i hanner amser 7 pwynt ar ei hôl hi.
Yn y 3ydd chwarter dwysaodd y bechgyn yr ymdrech amddiffyn. Parhaodd Antonio Morales i frwydro ac, er gwaethaf bod mewn trafferth trosedd yn gynnar, llwyddodd i herio ergydion adlam yn dda yn erbyn chwaraewyr mwy Charnwood. Dangosodd David Wells ei athletiaeth gan adlamu’n rhyfeddol ar ddwy ochr y cwrt, yn ogystal â sgorio basgedi adennill hollbwysig a thafliadau rhydd. Stopiodd Antoine Ruesch y gwrthwynebwyr rhag sgorio ar sawl achlysur a dangosodd ei allu pasio gydag ambell bas cwrt cyfan i Alonso ar gyfer gosodiad hawdd.
Galwodd Charnwood am saib ond nid oedd yn ddigon i atal perlesmair sgorio Alonzo. Roedd bellach wedi sgorio ar yr wrthymosodiad, mewn traffig o amgylch y cylch ac o bell gan daro 3-phwyntwyr ac roedd y gwrthwynebwyr yn dechrau sylweddoli nad oedd ganddynt unrhyw ateb iddo.
Roedd y bechgyn 2 bwynt ar ei hôl hi yn mynd i mewn i’r pedwerydd chwarter. Ravi arweiniodd cynllun y gêm yn y saib gan siarad â’r tîm am sut roedd yn rhaid iddynt barhau i wthio’r gwrthymosodiad. Yn dilyn naid 3-phwynt gan Ravi a sgorau anferthol gan Alonso roedd rhaid i Charnwood gymryd saib arall a gyda 5 munud yn weddill roedd Coleg Dewi Sant wedi llwyddo i fynd 5 pwynt ar y blaen. Ymatebodd Charnwood gyda rhai sgorau anodd y tu mewn i’r llinell 3-phwynt ac roedd yn edrych fel y gallent ail-achub y blaen. Roedd gan Alonzo syniadau eraill, wrth iddo daro 3-phwynt bwaog uchel a gosodiad anodd o ochr arall y fasged. Roedd yr egni o’r fainc yn ddi-baid a chariodd y bechgyn ar y cwrt trwy’r cyfnodau chwarae mwyaf blinedig.
Nawr gyda 3 munud i fynd cadwodd Ravi ei bwyll a threfnodd y tîm i amddiffyn ei fantais. Fe wnaeth Charnwood roi pwysau mawr ar yr amddiffyn i fynd ar ôl y gêm ond roedd pasio call gan Josh Patten, Ravi a David yn golygu bod Dewi Sant yn gallu cadw meddiant ac aros ar y blaen.
Brwydrodd Charnwood hyd y diwedd ond seiniodd y seiniwr terfynol gyda Choleg Dewi Sant i fyny 9 ac ar eu ffordd i’r gêm derfynol.
Cafodd Alonso berfformiad eithriadol gyda 44 pwynt ac ataliadau allweddol.