
Fy enw i yw Jake Laycock. Ar ôl cwblhau TGAU yn Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman, y cam nesa naturiol i fi oedd Coleg Catholig Dewi Sant. Astudiais i lefelau-A mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg, a Llenyddiaeth Saesneg, a llwyddo i ennill A* A* A. Gwnaeth y pynciau hyn ymestyn fy ngwybodaeth a hogi fy sgiliau, gan fy mharatoi ar gyfer y byd proffesiynol. Y tu allan i’r dosbarth, croesewais i gyfleoedd pellach a gryfhaodd fy ngheisiadau ar gyfer Gradd-Brentisiaethau.
Wedi addysg bellach, ymunais i â CGI fel Prentis Gradd tra’n astudio am BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Yn wythnosol cydbwysodd fy amserlen bedwar diwrnod o waith ymarferol yn CGI gydag un diwrnod o astudiaethau prifysgol. Dewisais i’r llwybr hwn er mwyn ennill profiad ymarferol mewn diwydiant law yn llaw ag astudiaethau academaidd. Roedd Gradd-Brentisiaeth yn cynnig y gorau o ddau fyd—ennill cyflog, cael fy ngradd wedi ei chyllido’n llwyr, ac ennill profiadau gwerthfawr o’r diwrnod cyntaf.
Roedd rhaglen CGI’n tynnu fy sylw am ei ffocws cryf ar Yrfa Cynnar, gyda chynnig o gefnogaeth benodol ac addewid o ragolygon gyrfa gwych. Galluogodd y bartneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe i fi astudio a gweithio’n lleol, gan ennill profiad a dangos fy hun yn y diwydiant tra’n aros yn agos i gartre. Dros dair blynedd, cyfrannais i at brosiectau cyswllt-cleient mewn bancio, marchnadoedd ariannol, a’r sector modurol. Gweithiais i gyda systemau trafod cyllid, archwilio twyll, a rheoli adalw moduron. O’r dechrau, ces i fy ymddiried i ymwneud â thasgau byd go-iawn- datblygu nodweddion newydd, trwsio bygiau, a chreu datrusiadau meddalwedd dylanwadol.
Yn 2024, graddiais i gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a thair blynedd o brofiad diwydiannol, gan bontio’n ddi-drafferth i swydd lawn-amser Peirannydd Meddalwedd yn CGI—a hyn oll heb ddyled myfyriwr. Yn wahanol i raddedigion traddodiadol yn chwilio am swyddi, roeddwn i eisioes yn rhan o fy nhim, yn derbyn mwy o gyfrifoldebau ac yn gwneud cynnydd naturiol. Roedd fy Nghradd-Brentisiaeth yn fwy na dim ond llwybr at radd: roedd yn fan cychwyn gyrfa i fi, a roddodd fantais cystadleuol i fi yn y diwydiant.
I bawb sy’n ystyried Gradd-Brentisiaeth, dw i’n ei argymell yn fawr! Fy nghyngor i yw i gynllunio ymlaen llaw ac ymgeisio i gymaint o raglenni ag sy’n bosibl. Mae’r cyfleoedd yn gystadleuol, felly gwnewch y mwyaf o’ch gallu. Cadwch ddewisiadau ar agor- gwnewch gais am sawl prentisiaeth a mynnwch le mewn prifysgol hefyd i’w gael wrth gefn. Gall Gradd-Brentisiaeth eich arwain at lwyddiant, gan gyfuno addysg â phrofiad diwydiannol amhrisiadwy.