
Celf a Dylunio
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A* - C: 91.1%
Bwrdd Arholi
CBAC
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r fanyleb hon yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr datblygu ystod eang o sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol ar lefel Uwch Gyfrannol, sy’n cynnig dealltwriaeth gyfannol iddynt o amrywiaeth o ymarferiadau a chyd-destunau ym meysydd celf weledol, crefft a dylunio, sy’n diweddu mewn arbenigedd a chyrhaeddiad uwch ar Lefel A.
Mae’r cwrs yn annog myfyrwyr i ddatblygu:
- galluoedd deallus, dychmygus, creadigol, a sythweledol,
- sgiliau ymchwiliol, dadansoddol, arbrofol, ymarferol, technegol a mynegiannol, dealltwriaeth esthetig a dyfarniad,
- annibyniaeth meddwl i ddatblygu mireinio a chyfathrebu syniadau eu hun, eu bwriadau a’u canlyniadau personol,
- diddordeb mewn, brwdfrydedd am a mwynhad mewn celf, crefft, a dylunio,
- profiad o weithio mewn cyfryngau amrywiol,
- gwybodaeth a phrofiad o gyd-destunau byd go iawn a, ble’n briodol, cysylltiadau gyda diwydiannau creadigol,
- gwybodaeth a dealltwriaeth o gelf, crefft, dylunio a’r cyfryngau a thechnoleg mewn diwylliant a chymdeithasau’r gorffennol a chyfoes.