Lefel UG (blwyddyn 1)

Un darn o waith cwrs ac un arholiad – i’w gymryd yn ystod yr arholiadau haf.

Mae’r arholiad yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau ateb byr, strwythuredig ac estynedig i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o: egwyddorion technegol ac egwyddorion dylunio a gwneud. Maent hefyd yn cael eu hasesu ar eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.

Mae tasg dylunio a gwneud cynaliadwy, yn seiliedig ar her gyd-destunol a osodir gan CBAC, yn asesu gallu’r dysgwyr i: nodi, ymchwilio ac amlinellu posibiliadau dylunio, dylunio a chreu prototeipiau, a dadansoddi ac arfarnu penderfyniadau dylunio a materion ehangach mewn dylunio a thechnoleg.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Mae hanner y radd yn dod o’r flwyddyn UG a’r hanner arall o’r flwyddyn Safon Uwch, sy’n dod ar ffurf un arholiad ysgrifenedig 3 awr o’r enw ‘Dylunio a Thechnoleg yn yr 21ain Ganrif’, ac un darn o waith cwrs ‘dylunio a chreu’. Mae hyn yn 80 awr o waith.

Gall Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg arwain at astudio pynciau amrywiol, mewn meysydd eang yn Addysg Uwch. Rhai o’r meysydd sydd ar gael i fyfyrwyr Dylunio a Thechnoleg yw dylunio cynnyrch, peirianneg, technoleg feddygol, dysgu, pensaernïaeth a dylunio graffig.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Mathemateg a gradd C yn TGAU Saesneg. Mae TGAU Celf neu Dechnoleg Dylunio yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.

Gellir defnyddio gradd B mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.