Cred rhai myfyrwyr fod ysgoloriaethau yn unig er lles dysgwyr sydd ag angen enbyd am gefnogaeth ariannol. Nid yw hyn yn wir.

Rydym yn cynnig dau fath o ysgoloriaeth ar gyfer 2024/2025; un ar gyfer cyflawniad academaidd ac un am gyfraniad i’r gymuned. Gallwch wneud cais am un ysgoloriaeth yn unig. Dylid gwneud ceisiadau am yr ysgoloriaeth cyflawniad academaidd a’r cyfraniad i ysgolheictod cymunedol gan ddefnyddio’r un ffurflen gais.

Bydd angen i chi anfon ffotograffau/copïau o’ch cymwysterau/slipiau canlyniadau arholiad gyda’ch ffurflen gais fel prawf o’ch cymwysterau.

Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth ategol gyda’ch cais, er enghraifft, tystysgrifau presenoldeb a thystysgrifau eraill y gallech fod wedi’u hennill yn ystod eich cyfnod yn yr ysgol.

Sicrhewch fod eich cais yn glir ac yn ddarllenadwy. Dim ond ceisiadau a wneir yn electronig fydd yn cael eu derbyn. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 27 Awst 2024 (11.59pm). Gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad fel rhan o’r broses ddethol.

Ar gyfer chwaraeon:

  • Rhoddir y cyfle i ymgeisio am yr ysgoloriaeth chwaraeon i chwaraewyr academi pêl-droed a phêl-fasged ar ôl i dreialon ddigwydd, a fydd i gyd yn gallu gwneud cais trwy ysgrifennu datganiad person
  • Mae pedair ysgoloriaeth ar gael, dau ar gyfer pêl-droed (un gwryw ac un fenyw) a dau ar gyfer pêl-fasged (un gwryw ac un fenyw)

Ar gyfer 2024/2025, bydd pob ysgoloriaeth yn werth £1250 bob blwyddyn. Bydd y cyfraniad i’r gymuned yn £1000 i fyfyrwyr a £250 i’w helusen enwebedig. Bydd yr Ysgoloriaeth Chwaraeon yn £500.

Rhesymau i Ymgeisio am Ysgoloriaeth yng Ngholeg Catholig Dewi Sant 

Cred rhai myfyrwyr fod ysgoloriaethau er lles dysgwyr sydd ag angen enbyd am gefnogaeth ariannol. Nid yw hyn yn wir. Gall ennill ysgoloriaeth darparu llawer o fanteision, hyd yn oed ar ôl i chi orffen astudio yma. Os nad ydych wedi penderfynu ymgeisio am ysgoloriaeth, ystyriwch y manteision sydd wedi’i rhestri isod cyn penderfynu!

Adnabod potensial eich hun

Os ydych yn llwyddo i ennill ysgoloriaeth dylech chi fod yn falch iawn gan ein bod ni’n derbyn llawer o geisiadau bob blwyddyn. Pan fyddech yn cael eich cydnabod am eich cyraeddiadau, boed yn academaidd neu am gyfraniad i’r gymuned, mae’n rhoi’r hyder i chi mynd ar drywydd nodau ac uchelgeisiau arall.  Os ydych yn derbyn cydnabyddiaeth am eich cyraeddiadau, bydd yn eich galluogi i adnabod eich potensial yn gynnar yn eich bywyd academaidd a bydd a bydd hyn yn meithrin twf eich potensial.

“Sefyll allan ymysg y dorf”

Os ydych yn llwyddo i ennill ysgoloriaeth, mae’n dangos i eraill eich bod yn sefyll allan ymhlith eich cyfoedion yng Ngholeg Dewi Sant. Mae’r Coleg wedi cydnabod eich cyraeddiadau hyd yn hyn ac rydym yn credu eich bod yn haeddu’r wobr hyn. Pan rydych yn ymgeisio i’r Brifysgol ac am swyddi yn y dyfodol, bydd gennych dystiolaeth eich bod yn medru gwahaniaethu eich hun ymhlith eich cyfoedion ac wedi medru “sefyll allan ymysg y dorf”. Bydd y wybodaeth yma’n eich cymell i herio’ch hun i gyrraedd nodau uwch yn y dyfodol.

 

Dilyniant i’r Brifysgol

Mae Prifysgolion yn hoffi derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi’u cydnabod am ryw fath o gyrhaeddiad. Dangosir ysgoloriaeth cyflawniad mawr iawn ac yn golygu fod gennych alluoedd eithriadol. Mae’r rhan fwyaf o Brifysgolion yn awyddus i annog y dysgwyr a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu corff myfyrwyr. Gall Ysgoloriaeth dangos i diwtoriaid mynediad eich bod yn fyfyriwr galluog a fydd yn ychwanegiad gwych i’r Brifysgol.

Maintais i’ch CV

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer cyflogaeth yn uchel, a gellir gwahaniaethu eich CV wrth y rhai a anfonwyd gan gannoedd o ymgeiswyr eraill fod yn anodd. Bydd ysgoloriaeth yn helpu i wneud eich CV sefyll allan. Gall cael ei gydnabod gan rywun arall ar gyfer eich cyflawniadau yn ddigon i gael cyfweliad gyda chyflogwr yn y dyfodol ac mae’n rhoi rhywbeth diddorol i siarad am yn ystod eich cyfweliad!

Rhoi cymorth ariannol i chi

Hyd yn oed os nad ydych angen cymorth ariannol arnoch, gall dderbyn ysgoloriaeth fod o fudd i chi. Er enghraifft, efallai y byddwch am ddefnyddio’r arian i brynu adnoddau a fydd o fudd i’ch dysgu, er enghraifft, tanysgrifiadau i gylchgronau a chyfnodolion a fydd yn hyrwyddo eich darllen, neu liniadur a fydd yn eich galluogi i weithio’n fwy hyblyg. Gall yr ysgoloriaeth eich galluogi i fod yn fwy detholus am sut rydych yn treulio eich amser rhydd. Gallai hyn olygu nad oes angen i chi gael swydd ran-amser ac yn gallu defnyddio’r amser hwn ar gyfer eich astudiaethau neu ddewis gyfleoedd gwirfoddoli sy’n fwy ystyrlon, sy’n ychwanegu gwerth at eich gradd neu gyflogaeth i’r dyfodol.