Mae Coleg Dewi Sant newydd orffen ei ail dwrnamaint pêl-droed blynyddol gyda llwyddiant ysgubol. Mae’r hyn a ddechreuodd fel cynulliad cymharol fach bellach wed troi’n ddigwyddiad llewyrchus, gan arddangos ysbryd cystadleuaeth ymhlith myfyrwyr. Roedd cynnydd trawiadol mewn cyfraniad eleni, gyda 13 tîm o 7 chwaraewr yr un yn camu i’r cae, o’i gymharu ag 8 tîm y llynedd.

Nid sgorio goliau yn unig oedd pwrpas y twrnamaint; y bwriad oedd gwneud gwahaniaeth. Codwyd dros £270 i Elusen Canser Maggie’s sy’n brawf o ymrwymiad y gymuned i gefnogi achosion hanfodol. Bydd yr arian yn mynd tuag at ddarparu cymorth i’r rhai y mae canser yn effeithio arnynt, diolch i ymdrechion ar y cyd cymuned y coleg.

Roedd cymysgedd dda o gystadleuaeth a chyfeillgarwch yn y gemau, gyda’r chwaraewyr yn arddangos angerdd a sbortsmonaeth ar yr astro. Fodd bynnag, y tu hwnt i’r sgôr derfynol, y rhyngweithiad cymdeithasol ac ysbryd cymunedol a ddiffiniodd y digwyddiad mewn gwirionedd. Daeth myfyrwyr at ei gilydd i gystadlu ond hefyd i greu cysylltiadau parhaol a chefnogi ei gilydd ar y cae ac oddi arno.

Roedd ymdrechion ein trefnwyr myfyrwyr Busnes a Bagloriaeth Cymru yn ganolog i lwyddiant y twrnamaint. Fe wnaeth eu hymroddiad a’u gwaith caled sicrhau cynllunio, trefniadaeth a gweithrediad llyfn. Yn ychwanegol, mae cefnogaeth diwyro staff y coleg, a aberthodd eu hegwyliau cinio dros bum niwrnod i hwyluso’r digwyddiad, yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig. Roedd eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd yn allweddol i wneud y twrnamaint yn llwyddiant ysgubol.

I think it gave students something to look forward to during their morning lessons. I also believe that the tournament significantly boosted social development as it gave students the chance to come together to form excellent teams alongside getting the chance to meet new people. Not only did it give students the opportunity to participate in great physical exercise but it also gave students a cognitive refresh. Something to divert their attention away from the stress of college work/exams.

Gan edrych ymlaen, oherwydd poblogrwydd a llwyddiant ysgubol y digwyddiad, mae’r coleg yn bwriadu ei wneud yn draddodiad blynyddol.

Wrth i’r chwiban olaf chwythu ar dwrnamaint eleni, bydd etifeddiaeth gwaith tîm, sbortsmonaeth, ac ysbryd cymunedol y digwyddiad yn parhau i atseinio o fewn Coleg Dewi Sant, gan ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol i ddod at ei gilydd at achos cyffredin ar y cae ac oddi arno.

I would like to see the tournament return but unfortunately we won’t be able to make it three times champions