Mae hwn yn gwrs dwy flynedd. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn ennill Tystysgrif Estynedig, sy’n gyfwerth ag 1 Lefel A. Mae hwn yn gymhwyster ‘annibynnol’ sydd wedyn yn mynd ymlaen er mwyn ennill y Diploma Atodol llawn, sy’n gyfwerth â 2 Lefel A. Mae yna 10 gwers pob wythnos ar gyfer y cwrs hwn.

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o arholiadau, tasgau wedi’u hamseru, ac aseiniadau.

Tystysgrif Estynedig (Blwyddyn 1)

Uned 1- Egwyddorion a Defnydd o Wyddoniaeth I

Arholiad ysgrifenedig mewn 3 adran (A, B & C) sy’n cael ei asesu’n allanol – 30 marc ar gyfer pob adran.

Adran A – Cemeg (40 munud)

Adran B – Bioleg (40 munud)

Adran C – Ffiseg (40 munud)

Mae’r papur yn cynnwys cwestiynau amlddewis, cyfrifiadau, cwestiynau atebion byr, a chwestiynau agored.

 

Uned 2 – Technegau Ymarferol Gwyddonol

Yn seiliedig ar aseiniadau a asesir yn fewnol

Nod Dysgu A – Cynnal titradiad a chalorimedr er mwyn pennu crynodiad y toddiad
Nod Dysgu B – Cynnal calorimedr er mwyn astudio cromliniau oeri
Nod Dysgu C – Cynnal technegau cromatograffig i nodi’r cyfansoddion mewn cymysgeddau
Nod Dysgu D – Adolygu’ch datblygiad personol mewn sgiliau gwyddonol ar gyfer gwaith labordy

 

Uned 3 – Sgiliau Ymchwiliol mewn Gwyddoniaeth

Tasg wedi’i hasesu’n allanol. Bydd dysgwyr yn ymdrin â’r holl gamau ymchwilio, ynghyd â’r sgiliau fydd angen er mwyn cynllunio, casglu data, dehongli’r canlyniadau, dod i gasgliad, a gwerthuso.

Tasg ysgrifenedig wedi’i hasesu mewn un sesiwn dan oruchwyliaeth, sydd werth 60 marc. Er mwyn cwblhau’r dasg, bydd angen i’r myfyrwyr gasglu data.

 

Uned 9 – Rheoli ac Atgenhedlu Dynol

Yn seiliedig ar aseiniadau a asesir yn fewnol

Mae’r uned hon yn darparu i’r dysgwyr y ddealltwriaeth o sut y caiff amgylchedd mewnol y corff ei rheoli o fewn paramedrau neilltuol sy’n galluogi prosesau allweddol y corff.

 

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i ddysgwyr a fydd yn sail gadarn ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr wedi ennill gwybodaeth weithredol dda o sgiliau labordy cyffredinol a gweithdrefnau ymchwil yn ogystal â’r pynciau gwyddonol penodol.

5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnxfwys gradd CC yn TGAU Gwyddoniaeth, gradd C yn TGAU Mathemateg neu Rifedd, a gradd C yn TGAU Saesneg*

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.

Mae o leiaf D yn TGAU Saesneg yn ofynnol. Gellir defnyddio gradd CC yn TGAU Gwyddoniaeth Gymwysedig yn lle TGAU Gwyddoniaeth.