Mae’r Diploma mewn Troseddeg yn gymhwyster gydag elfennau o Seicoleg, Y Gyfraith a Chymdeithaseg sy’n ategu astudiaethau mewn pynciau’r dyniaethau. Byddai’r cymhwyster yma’n cefnogi dilyniant myfyrwyr o unrhyw astudiaeth ar Lefel 2, yn enwedig TGAU Cymdeithaseg, y Gyfraith neu Seicoleg. Bydd y cwrs yn mynd tu hwnt i’r astudiaeth draddodiadol gyda siaradwyr gwadd o asiantaethau sy’n ymwneud â’r gwasanaethau / arferion bydd y cwrs Troseddeg yn eu cwmpasu.

Mae’r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig ac asesiadau dan reolaeth. Ym mhob blwyddyn bydd un modiwl yn cael ei asesu gan ddefnyddio asesiad dan reolaeth a’r llall drwy arholiad allanol. Bydd y graddau ar gyfer y Dystysgrif neu’r Diploma yn amrywio o A*-E. Mae’r Diploma yn gyfwerth ag un Safon Uwch.

Tystysgrif (blwyddyn 1)

Modiwl 1 – Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd

Bydd myfyrwyr yn asesu sut mae trosedd yn cael ei gweld can y cyhoedd, yn seiliedig ar ei bortread yn y cyfryngau, mesuriad gan y wladwriaeth, a gwerthoedd cymdeithasol. Bydd yr astudiaeth hon yn diweddu lan gyda chreu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, neu newid canfyddiad am drosedd benodol.

Modiwl 2 – Damcaniaethau Troseddegol

Mae’r uned hon yn gofyn bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â, a gwerthuso ystod eang o esboniadau damcaniaethol cymdeithasol-seicolegol ar gyfer ymddygiad troseddol.

Diploma (blwyddyn 2)

Modiwl 3 – Safle Trosedd i’r Llys

Bydd yr uned hon yn rhoi dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol o’r funud y caiff trosedd ei adnabod, i ddyfarniad. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth a sgiliau sydd eu hangen i archwilio gwybodaeth, er mwyn adolygu cyfiawnder rheithfarnau mewn achosion troseddol.

Modiwl 4 – Trosedd a Chosb

Bydd y dysgwyr yn cymhwyso eu dealltwriaeth o ymwybyddiaeth o droseddoldeb, damcaniaethau troseddegol a’r broses o ddod â’r sawl a gyhuddir i’r llys, er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rheolaeth gymdeithasol i ddarparu polisi cyfiawnder troseddol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallai llawer o ddysgwyr ymgeisio i, ac yn cael cynnig lle yn y brifysgol ar gyrsiau sy’n gysylltiedig â  Throseddeg, Cymdeithaseg, y Gyfraith neu Seicoleg. Fel arall, bydd y cwrs yn gwella cais i weithio ym maes y sector cyfiawnder troseddol, gwaith cymdeithasol a’r gwasanaeth prawf.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn Saesneg.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.