Mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn bwnc sy’n gofyn i fyfyrwyr nodi ac ystyried y ffyrdd y mae agweddau a gwerthoedd yn cael eu creu a’u cyfleu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd ffocws yr astudiaeth ar y dehongliad o iaith ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a drama yn ogystal ag ystod o destunau anllenyddol. Bydd yna hefyd gyfleoedd ar gyfer ysgrifennu gwreiddiol.

Bydd testunau a astudiwyd yn ystod y cwrs yn cynnwys detholiad o farddoniaeth gan Shakespeare i’r rhyfel byd cyntaf, King Lear a ‘The Color Purple’. Bydd yna hefyd darn o waith cwrs yn yr ail flwyddyn yn seiliedig ar ddull sy’n cynnwys astudiaeth o ffuglen droseddol.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Dadansoddiad Cymharol ac Ysgrifennu Creadigol (arholiad 2 awr)
Mae’r uned hon yn archwilio i allu’r myfyrwyr i ymchwilio cysylltiadau ar draws amrywiaeth o destunau. Mae’n annog darllen ychwanegol eang ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr dethol amrywiaeth o ddulliau priodol ar gyfer dadansoddi wrth ymchwilio testunau anllenyddol.

Uned 2: Astudiaeth Drama a Thestunau Anllenyddol (arholiad 2 awr)
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu a darn gosod ac yn ymchwilio i gyfoeth yr iaith Saesneg. Trwy ymateb i destunau anllenyddol, bydd myfyrwyr yn medru adnabod bias, rhagolwg moesol, rhagfarn, agwedd a gwerthoedd siaradwyr ac ysgrifenwyr ac yn gallu dadansoddi sut mae’r rhain yn cael eu cyfleu trwy ddefnyddio iaith.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Shakespeare (arholiad 1.5 awr)
Tra bod myfyrwyr yn ymgysylltu’n feirniadol gyda’r testun fel darn o waith llenyddol, mae’r uned hon hefyd yn cynnig y cyfle i ymchwilio cyfoeth yr iaith Saesneg a’i datblygiad hanesyddol o fewn cyd-destun o bryd gafodd y gwaith ei greu a’i derbyn.

Uned 4: Testun ac Astudiaeth Rhyddiaith anweledig (arholiad 2 awr)
Mae’r uned hon yn annog myfyrwyr i ddatblygu’r gallu i ddarllen yn eang ac i ymgysylltu’n feirniadol gydag ystod o destunau wrth ddatblygu technegau dysgwyr i ddadansoddi a gwerthuso’n effeithiol.

Uned 5: Gwaith cwrs
Asesir yr uned hon yn fewnol cyn ei chymedroli’n allanol. Mae’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddewis elfen o ryddiaith yn annibynnol sydd o ddiddordeb iddynt ac yna i astudio un testun o fewn y genre yna. Yn ogystal, caiff dysgwyr y cyfle i ddethol darllen ehangach er mwyn ychwanegu i’r astudiaethau o’r uned hon ac i adlewyrchu ar y ddysgu sydd wedi cymryd lle.

Arholiadau ym mis Mehefin.

Mae cymhwyster Safon Uwch Saesneg yn bwnc canolog sy’n golygu bod y rhan fwyaf o bynciau yn mynd yn dda ag ef. Felly, mae llawer o yrfaoedd yn agored i’r myfyriwr Saesneg. Fodd bynnag, y proffesiynau mwyaf amlwg yw’r gyfraith, newyddiaduraeth, addysgu, gweinyddu, gwasanaeth sifil, bancio, y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol.

6 gradd C mewn TGAU, gan gynnwys gradd C mewn TGAU Saesneg Iaith ac C mewn Llenyddiaeth Saesneg.