Trosolwg o’r Cwrs

Mae BTEC Lefel 2 mewn E-chwaraeon yn gymhwyster ar gyfer dysgwyr dros 16 sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith, addysg bellach, neu brentisiaeth, trwy roi’r cyfle iddynt ddatblygu gwybodaeth sector-benodol, a sgiliau technegol ac ymarferol, ac i gymhwyso’r sgiliau hyn mewn amgylcheddau cysylltiedig â gwaith. Gall y cymhwyster hefyd ddarparu dilyniant i astudio cymhwyster lefel 3 mewn E-chwaraeon.

Mae’r diwydiant E-chwaraeon yn ddiwydiant byd-eang sy’n tyfu’n gyflym, a ddiffinnir fel chwarae cystadleuol wedi’i drefnu, sy’n ddynol yn erbyn dynol, naill ai fel unigolion neu mewn timau. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â chyflogwyr blaenllaw ac mae’n cynnwys ac yn datblygu sgiliau gweithle trosglwyddadwy, megis cyfathrebu effeithiol a’r gallu i weithio mewn timau, y mae cyflogwyr yn eu hystyried yn hanfodol ar gyfer cael cyflogaeth a symud ymlaen yn y sector.

Bydd y rhaglen hon yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo mewn amrywiaeth o rolau o fewn y diwydiant E-chwaraeon, gan gynnwys chwarae proffesiynol, rheoli digwyddiadau a darlledu.

Bydd dysgwyr yn cwblhau 5 uned orfodol dros y ddwy flynedd:

  • Gemau, Timau a Thwrnameintiau E-chwaraeon
  • Sefydlu Sefydliad E-chwaraeon
  • Ffrydio ar gyfer E-chwaraeon
  • Cynllunio ar gyfer Digwyddiad E-chwaraeon
  • Cychwyn menter E-chwaraeon

ac 1 uned ddewisol o’r rhestr:

  • Dylunio Gêm E-chwaraeon
  • Iechyd a Lles Cadarnhaol mewn E-chwaraeon

Cwblheir yr holl asesu trwy brosiectau gwaith cwrs ac aseiniadau a farciwyd gan yr athro. Nid oes unrhyw arholiadau yn y cwrs hwn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall myfyrwyr barhau â’u haddysg trwy ddilyn cwrs Lefel 3 mewn E-chwaraeon, Technoleg Gwybodaeth, neu Astudiaethau Busnes.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddilyn llwybrau gyrfa amrywiol yn y diwydiant E-chwaraeon, megis chwarae proffesiynol, rheoli digwyddiadau, darlledu, datblygu gemau, neu ddechrau eich busnes cysylltiedig ag E-chwaraeon eich hun.

Pa bynnag lwybr a ddewiswch, bydd y Diploma BTEC Lefel 2 mewn E-chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau trosglwyddadwy i chi allu llwyddo mewn diwydiant cyffrous sy’n tyfu’n gyflym.

4 gradd ‘D’ mewn TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Nodwch nad yw eich lle ar y cwrs yn awtomatig wrth gofrestru. Fel rhan o’ch cais, bydd gofyn i chi gyflwyno datganiad ategol yn amlinellu eich diddordeb mewn Hapchwarae Cystadleuol a’r diwydiant o’i gwmpas, gan gynnwys meysydd fel (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt); Dadansoddiad cystadleuol, Brandio, Cynhyrchu Fideo, Dylunio Gemau, Rheoli Digwyddiadau, Iechyd a Ffitrwydd a Gwe-gastio.

Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno Ffurflen MS sy’n ateb fersiynau diwygiedig:

  • Pam mae gennych ddiddordeb mewn astudio E-chwaraeon yn Nhyddewi?
  • Pa brofiadau neu sgiliau sydd gennych mewn E-chwaraeon?