Mae TGAU Mathemateg yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi a chyrsiau prifysgol. Gall llwyddiant mewn TGAU Mathemateg hefyd arwain at astudiaethau pellach mewn Mathemateg neu unrhyw un o’r gwyddorau.

Caiff y cwrs ei asesu trwy ddau arholiad llinol. Bydd y cyfle cyntaf i ail-sefyll ym mis Tachwedd, gyda’r ail gyfle yn yr haf sy’n dilyn. Rhaid sefyll papur 1 a phapur 2 ar yr un pryd er mwyn llwyddo ar lefel TGAU.

 

Manyleb Linol

Papur 1 – Papur Digyfrifiannell

Sylfaenol: Gwaith rhif, Algebra, Onglau, Trawsffurfiadau, Siapau a Thebygolrwydd.

Uwch: Fel yr uchod gyda Ffurf Safonol,  Syrdiau a Theoremau Cylchoedd yn ychwanegol.

 

Papur – Papur cyfrifiannell

Sylfaenol: Gwaith rhif, Algebra, Arwyneb a Chyfeintiau, Pythagoras, Triniaeth o ddata.

Uwch: Fel yr uchod gyda graffiau cyflymder-amser, rheol trapesiwm, trionglau tebyg,  trigonometreg, amlder cronnus a histogramau.

Byddai gradd B mewn Haen Canolradd TGAU Mathemateg yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i haen uwch TGAU Mathemateg.

Mae gradd B mewn Mathemateg Haen Uwch yn angenrheidiol i ddysgwyr symud ymlaen i AS Mathemateg.