Trosolwg o’r cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn caniatáu dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o fewn cyd-destun ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:

  • agweddau corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol sy’n effeithio ar dwf a datblygiad ar draws cyfnodau bywyd unigolion
  • dylanwad ffactorau bywyd, dewisiadau ffordd o fyw a digwyddiadau bywyd ar dwf, iechyd a lles
  • ffactorau sy’n llywio hunan-gysyniad
  • rôl a phwrpas hyrwyddo iechyd a lles
  • anghenion unigol ar draws pob cyfnod bywyd
  • cyfleoedd a heriau yn lleol ac ar draws Cymru
  • rôl a chyfrifoldebau gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • deddfwriaeth ac egwyddorion gofal a chymorth.

Mae angen i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 60 awr o ymgysylltu â’r sector, a rhaid treulio o leiaf 30 awr o’r rheini yn ymgymryd â lleoliad gwaith. Gallai mathau eraill o ymgysylltu â’r sector gynnwys ymweliadau â’r gweithle, darlithwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol.

Mae’r cwrs yn cael ei gwblhau dros un flwyddyn

Uned 1: Hyrwyddo iechyd a lles (Arholiad)

Papur ysgrifenedig sy’n cynnwys amrywiaeth o fathau o gwestiynau i asesu cynnwys penodol sy’n ymwneud â hyrwyddo iechyd, lles a gwydnwch.  Cyflwynir y papur fel llyfryn cwestiwn ac ateb. Mae pob cwestiwn yn orfodol. Mae hwn yn werth 40% o’r radd gyffredinol.

Uned 2: Iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi darpariaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog

Mae’r dasg hon yn asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau’r dysgwr mewn perthynas â sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cefnogi darpariaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog. Mae hon yn dasg heb ei harholi sy’n gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad.

Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach. I symud ymlaen i lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol mae’n ofynnol i fyfyrwyr gyflawni Teilyngdod.

4 gradd ‘D’ mewn TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.