Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth o systemau TG, rheoli systemau, a’r cyfryngau cymdeithasol mewn busnes.

Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, dyfernir Tystysgrif BTEC Lefel 3 mewn TG i ddysgwyr (sy’n gyfwerth ag un cwrs UG). Ar ôl cwblhau’r ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn ennill Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 llawn mewn TG (sy’n gyfwerth ag un cwrs Safon Uwch llawn).

Caiff dysgwyr eu hasesu drwy waith cwrs ac arholiadau.

Mae’n gyfwerth ag un cwrs Safon Uwch.

 

Uned 1: Systemau Technoleg Gwybodaeth (Allanol)

Bydd dysgwyr yn astudio rôl systemau cyfrifiadurol ac arwyddocâd eu defnydd o fewn sefyllfaoedd personol a phroffesiynol.

Uned 2: Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth (Allanol)

Bydd dysgwyr yn astudio’r broses o ddylunio, creu, profi, a gwerthuso systemau cronfa ddata berthynol er mwyn rheoli gwybodaeth.

Uned 3: Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes (Mewnol)

Bydd dysgwyr yn ymchwilio i’r ffyrdd y mae busnesau’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Aiff dysgwyr ati hefyd i gyflawni gweithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn gwireddu anghenion penodedig.

Uned 6: Datblygu Gwefan (Allanol)
Bydd dysgwyr yn ymchwilio i’r egwyddorion o ran datblygu gwefan. Byddant yn dylunio ac yn datblygu gwefan trwy ddefnyddio sgriptio gweinydd gwe.

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rheiny sy’n astudio i’w paratoi at gyflogaeth yn y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, yn enwedig mewn swyddi lle y disgwylir iddynt ddefnyddio sgiliau TGCh, cysylltu â defnyddwyr, a chyflawni tasgau cymorth TGCh. Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn addas i’r rheiny sy’n dymuno ennill cymhwyster Lefel 3 er mwyn hwyluso eu symudiad ymlaen i Addysg Bellach neu Addysg Uwch.

 

5 gradd C TGAU neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. Rhaid cynnwys isafswm o radd D mewn TGAU Mathemateg.