![](https://cymraeg.stdavidscollege.ac.uk/app/uploads/sites/3/2021/12/aIMG_2315-scaled.jpg)
Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Creadigol BTEC (Lefel 2)
Cymhwyster
BTEC Lefel 2
Bwrdd Arholi
BTEC Pearson
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau ymchwil sylfaenol sy’n sail i bob cynhyrchiad yn y cyfryngau; yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o gyfleoedd cyflogaeth, gofynion swyddi, ac arferion gweithio’r sector cyfryngau creadigol; a’n datblygu dealltwriaeth o sut y mae cynhyrchion cyfryngau yn cael eu hadeiladu ar gyfer cynulleidfaoedd neu farchnadoedd penodol. Mae’r unedau dewisol yn galluogi dysgwyr i ddechrau adeiladu ar y sgiliau technegol a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant (neu’r diwydiannau) yn y sector cyfryngau.
Mae’r cwrs yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol. Mae’r unedau dewisol i’w cadarnhau.
Mae pob uned yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr:
- Datblygu sgiliau ymchwil sylfaenol sy’n sail i bob cynhyrchiad yn y cyfryngau
- Ennill dealltwriaeth sylfaenol o gyfleoedd cyflogaeth, gofynion swyddi, ac arferion gweithio’r sector cyfryngau creadigol
- Datblygu dealltwriaeth o sut y mae cynhyrchion cyfryngau yn cael eu hadeiladu ar gyfer cynulleidfaoedd neu farchnadoedd penodol
- Mae’r unedau technegol a chynhyrchu dewisol yn galluogi dysgwyr i ddechrau adeiladu ar y sgiliau technegol a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant (neu’r diwydiannau) yn y sector cyfryngau.
Mae gwaith yn cael ei asesu drwy waith cwrs yn unig.
Mae ein pecyn BTEC Lefel 2 a TGAU yn cynnig llwybr ardderchog ymlaen i’n cyrsiau Lefel 3.
Mae’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Digidol Creadigol BTEC Lefel 2 hefyd yn cynnig llwybr ymlaen i gyflogaeth mewn amryw o feysydd yn y cyfryngau.
4 gradd ‘D’ mewn TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.