Trosolwg o’r Cwrs

Mae athroniaeth yn ymwneud â rhesymu a thrafod ynghylch rhai o gwestiynau mwyaf dwys bywyd. Mae enghreifftiau’n cynnwys: ‘Beth yw natur a helaethder ein gwybodaeth?’, ‘Beth mae realiti’n ei gynnwys?’, ‘A oes yna endidau anghorfforol?’, ‘A yw Duw’n bodoli’, ‘A yw ymwybyddiaeth yn rhan o’r ymennydd neu’n rhywbeth ar wahân? ‘, ‘Sut dylem ni fyw?’, ‘Beth sy’n gwneud gweithred yn gywir neu’n dda a sut rydym yn datrys dadleuon moesegol?’, ‘Sut rydym yn gwahaniaethu rhwng dadleuon da a drwg?’, ‘Sut mae rhesymu yn wahanol rhwng pynciau academaidd?’

Wrth fynd ar drywydd cwestiynau o’r fath, mae athroniaeth yn dibynnu ar ddadansoddiad gofalus, trefnus a math arbennig o amheuaeth.

Bydd y cwrs dwy flynedd, llinellol hwn yn datblygu’ch sgiliau meddwl beirniadol ac yn eich herio i edrych y tu hwnt i ddeunydd arwynebol i ddod o hyd i graidd dadl, gan asesu ei rhagdybiaethau, cryfderau a gwendidau.

Mae’r Safon Uwch yn cynnwys pedair uned sy’n cael eu hastudio dros ddwy flynedd:

Blwyddyn 1 – Epistemoleg ac Athroniaeth Foesol

Epistemoleg yw astudio gwybodaeth. Rydym yn cymryd gwybodaeth yn ganiataol mewn bywyd bob dydd, ond mae athroniaeth yn herio ein rhagdybiaethau trwy ofyn ‘A yw gwybodaeth yn cynnwys Gwirionedd â G mawr?’, ‘Pam rydyn ni’n meddwl bod gwrthrychau corfforol yn bodoli?’ ac ‘A ydyn ni’n cael ein geni gyda gwybodaeth?’

Mae’r uned Athroniaeth Foesol yn mynd i’r afael â’r cwestiwn ‘Sut dylem ni fyw?’ a chwestiynau cysylltiedig eraill, megis ‘A yw moesoldeb yn wrthrychol neu’n fater o ddewis personol?’ a ‘Sut mae cymhwyso damcaniaethau moesol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn?’

Blwyddyn 2 – Metaffiseg Duw a Metaffiseg y Meddwl

Mae metaffiseg yn gangen o athroniaeth sy’n ymwneud â strwythur, natur a sail bodolaeth. Mae’r uned Metaffiseg Duw yn archwilio’n feirniadol ddadleuon o blaid ac yn erbyn bodolaeth Duw a damcaniaethau cystadleuol am semanteg ymadrodd crefyddol.

Ym Metaffiseg y Meddwl, rydym yn mynd ar drywydd y cwestiwn, ‘Sut mae’r meddwl yn perthyn i’r corff?’ A yw ymwybyddiaeth yn rhan o’r corff neu ai rhywbeth arall ydyw? I’r perwyl hwn, rydym yn craffu ac yn dadlau amrywiaeth o safbwyntiau sy’n ceisio uniaethu’r meddwl â naill ai’r ymennydd corfforol neu ryw nodwedd anghorfforol o realiti.

Mae’r cwrs yn ddwy flynedd ac yn llinellol, sy’n golygu nad oes arholiad UG yn y flwyddyn gyntaf. Mae asesiad crynodol ar gyfer y Safon Uwch yn cynnwys dau arholiad tair awr, wedi’u cynnal yn ystod cyfnod arholiadau’r haf yn yr ail flwyddyn.

Papur 1: Epistemoleg ac Athroniaeth Foesol

  • Arholiad ysgrifenedig: 3 awr
  • 100 marc
  • 50% o’r Safon Uwc

Papur 2: Metaffiseg Duw a Metaffiseg y Meddwl

  • Arholiad ysgrifenedig: 3 awr
  • 100 marc
  • 50% o’r Safon Uwch

Nid oes unrhyw waith cwrs crynodol ar gyfer y cymhwyster hwn.

Bydd Athroniaeth yn helpu i’ch paratoi ar gyfer ystod o bynciau academaidd yn y brifysgol, megis Athroniaeth, PPE (Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg), Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Hanes, Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Cymdeithaseg, a Mathemateg, ac yn hogi eich sgiliau rhesymegol, sy’n hanfodol ar gyfer profion a chyfweliadau mynediad prifysgol cystadleuol, ac yn amhrisiadwy ar gyfer byd gwaith.

Gall athroniaeth arwain at yrfaoedd mewn addysgu, gwasanaethau lles, gwleidyddiaeth, mewn sefydliadau rhyngwladol, gwasanaethau sifil, a chwmnïau cyfreithiol. Mae sgiliau allweddol gwneud penderfyniadau rhesymegol a dadlau clir, rhesymegol yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ar lefelau uwch reolwyr.

O leiaf chwe gradd A*-C ar lefel TGAU. Rhaid i ddysgwyr ennill gradd A o leiaf mewn Llenyddiaeth Saesneg ac o leiaf radd B mewn Mathemateg. Dylai myfyrwyr gael proffil TGAU cryf yn gyffredinol.