Mae Coleg Dewi Sant wedi sefydlu enw da cryf ar gyfer ei raglen Safon Uwch ledled Caerdydd, Bro Morgannwg a Chaerffili.

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn ddiwyro yn ei ymrwymiad i ragoriaeth addysgol, sy’n llywio ymarferion a safonau addysgu. Mae athrawon yn canolbwyntio ar fyfyrwyr 16 i 19 oed yn unig. Mae arbenigo yn y grŵp oedran hwn yn galluogi athrawon i ymroi eu holl amser, gwybodaeth, ac adnoddau i’r dysgwyr hyn.

Mae pob myfyriwr yn unigryw, ac yng Ngholeg Dewi Sant, mae athrawon yn teilwra’u strategaethau i helpu pob dysgwr i ffynnu. Rydym yn ymdrechu i ddarparu cymorth arbenigol i’r rhai sydd â heriau dysgu, gan sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. Mae’r Ganolfan Cefnogi Dysgwyr yn darparu profiad dysgu cynhwysol ac unigolyddol i ddysgwyr niwroamrywiol. Mae hyn yn cynnwys lle i gael cymorth a chyngor i fyfyrwyr sy’n cael trafferth ag unrhyw agwedd ar Fywyd Coleg, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rydym yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth yn y canlyniadau rhagorol y mae ein dysgwyr yn eu cyflawni. Yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, rydym yn blaenoriaethu data gwerth ychwanegol i gydnabod a dathlu cynnydd pob myfyriwr. Waeth beth fo’u cefndir, mae myfyrwyr yn perfformio’n gyson uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol, gan arddangos effeithiolrwydd ein dulliau addysgu, integreiddio strategaethau dysgu cyfunol, a chefnogaeth ein cymuned.

Mae ein cyrsiau Safon Uwch wedi’u rhestru isod, ac mae dolen i wybodaeth fanwl a gofynion ar bob un ohonynt.

Cyrsiau Safon Uwch

Meini Prawf Mynediad

I astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Dewi Sant, bydd angen eich bod yn cael lleiafswm o 6 TGAU gwirioneddol, gradd C neu uwch.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r gofynion mynediad pwnc hefyd. Mae’n bosib y bydd gofyniad mynediad ar gyfer pob pwnc hefyd, er enghraifft er mwyn astudio Seicoleg bydd angen bod gennych o leiaf un radd B mewn TGAU Gwyddoniaeth a gradd C yn TGAU Mathemateg. Gallwch wirio gofynion mynediad pob pwnc trwy bori’r pynciau ar y wefan hon, a sgrolio i lawr i ‘Gofynion Mynediad Penodol’.